Parti Dolig Antur!
Prynhawn grêt yn dathlu’r Nadolig yn y Fic, Llanberis, ar nos Wener 16 Rhagfyr! Bwyd blasus, digon o ‘karaoke’ adawnsio a phawb yn edrych yn Nadoligaidd iawn yn eu gwisg parti a siwmperi Nadolig!
Prynhawn grêt yn dathlu’r Nadolig yn y Fic, Llanberis, ar nos Wener 16 Rhagfyr! Bwyd blasus, digon o ‘karaoke’ adawnsio a phawb yn edrych yn Nadoligaidd iawn yn eu gwisg parti a siwmperi Nadolig!
Noson wych a phrysur iawn ym Miri Siôn Corn yr Antur unwaith eto, diolch i bawb ddaeth allan i gefnogi! Diolch mawr hefyd i blant ac athrawon Ysgol Waunfawr, criw Rownd a Rownd a staff Tesco am eu cyfraniad at y noson.
Mae’r Nadolig yn agosáu, ac mae’r Antur yn brysur yn paratoi ar gyfer y digwyddiadau Nadoligaidd sydd ar y gweill. Mae’r siop grefftau yn Waunfawr ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9yb-4yp, ac yn cynnig amrywiaeth eang o grefftau, anrhegion ac addurniadau. Bydd tîm Antur hefyd yn mynd â’u crefftau i Ffair Nadolig […]
Mae gennym ddau ffrind pluog newydd yma yn yr Antur! Wythnos yma, rydym wedi croesawu hwyaid Jemeima a Charli, sydd wedi ymgartrefu’n dda yn eu clostir pwrpasol! Rydym wedi gwneud defnydd o danc olew plastig i wneud lloches glyd ar eu cyfer, ac maent i weld yn hapus iawn! […]
Mae Antur Waunfawr wedi derbyn adroddiad disglair yn dilyn ei arolygiad diweddaraf gan yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Roedd yr arolygiad, a gynhaliwyd ar 19 Medi 2016, yn cwmpasu tair thema; ansawdd bywyd; ansawdd y staffio ac ansawdd yr arweinyddiaeth a’r rheolaeth. Cafodd ansawdd bywyd yn Antur ganmoliaeth uchel, gyda’r arolygydd yn […]
Mae menter gymdeithasol leol Antur Waunfawr yn dathlu ar ôl ennill Gwobr Host Lleoli Gogledd a Chanolbarth Cymru yn seremoni wobrwyo CWP Jobcentre yn Ewlo, ym mis Hydref. Noddwyd y wobr gan Working Links, sefydliad sy’n ymroddedig i gael y di-waith hirdymor yn ôl i waith. Mae gan Antur gysylltiadau agos â Working Links, ar […]
Nid yw ein hystafell gyfarfod ar gael ar hyn o bryd. Diolch. Our meeting room is currently unavailable. Thank you. Wedi ei leoli’n Tŷ Capel yn Waunfawr, mae’r ystafell gyfarfod gyfleus yma’n ddelfrydol ar gyfer hyfforddiant grŵp a chyfarfodydd bychain: • Seddi ar gyfer 12 o bobl mewn lleoliad ffurfiol. • Parcio cyfleus am ddim. […]
Mae’n gyfnod cyffrous iawn ar brif safle Antur yn Waunfawr ar hyn o bryd, gyda gwaith yn dechrau ar ddatblygu cae chwarae newydd, cynhwysol. Mae ein caffi, gerddi a pharc saith erw eisoes ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn, ac mae maes parcio diogel a hwylus ar y safle a llawer o lwybrau […]
Wnaeth rhai o griw’r Antur fwynhau cyfarfod Aled Jones mis diwethaf, a’i groesawu fel Noddwr newydd i Ganolfan Gerdd William Mathias. Wnaeth yr hogia berfformio o’i blaen fel rhan o Doniau Cudd. Diolch yn fawr iawn i’r Ganolfan ac i Iolo Penri am y lluniau bendigedig!
Mae Cerdyn Eryri yn gerdyn plastig maint cerdyn credyd sydd yn cael ei dderbyn gan ddwsinau o fusnesau sydd yn cymryd rhan yn y diwydiannau twristiaeth, hamdden a lletygarwch yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy – yn cynnwys siop feics Antur Waunfawr, sef Beics Menai! Unwaith y byddwch yn prynu Cerdyn Eryri, cewch ei gyflwyno […]
Mae gan yr Antur swyddfa i’w llogi, wedi ei leoli yn Waunfawr, ger Caernarfon am swm o £200 y mis. Mae’r pris yn cynnwys: Parcio Cyfleusterau (gegin a thoiled) Defnydd resymol o lungopiwr/sganiwr Defnydd o ystafell gyfarfod WiFi Swyddfa: 24′ x 9’6″ Storfa: 9’8″ x 7’4″ Gofod storio: 9′ x 9’6″ Am fwy o wybodaeth, […]
Daeth yr arwr beicio Syr David Brailsford yn ôl adref i i lansio’r Etape Eryri flwyddyn yma, ac i agor dau lwybr beicio newydd a enwyd er anrhydedd iddo. Cymerodd tua 1,500 o feicwyr rhan yn y digwyddiad a ddechreuodd ar y Maes yng Nghaernarfon. Roedd Beics Menai yno yn arddangos y fflyd newydd o […]
Sgiliau syrcas, merlod, swigod, balŵns, canu, dawnsio, paentio wynebau, bownsio – hwyl oedd cyntaf ar yr agenda yn Ffair Haf blynyddol Antur eleni, fel y gallwch weld ….
Mae BeicsAntur yn falch o fod yn rhan o’r Cerdyn Eryri newydd, sy’n cynnig arbedion gwych gyda dwsinau o atyniadau, darparwyr gweithgareddau, bwytai, siopau a darparwyr llety sy’n cymryd rhan ar hyd a lled Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn. Medrwch brynu’r Cerdyn Eryri yn ein siop yng Nghaernarfon. Prun eich bod yn Eryri fel ymwelydd […]
Mae Cerdyn Eryri yn gerdyn plastig maint cerdyn credyd sydd yn cael ei dderbyn gan ddwsinau o fusnesau sydd yn cymryd rhan yn y diwydiannau twristiaeth, hamdden a lletygarwch yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy – yn cynnwys siop feics Antur Waunfawr, sef Beics Menai! Unwaith y byddwch yn prynu Cerdyn Eryri, cewch ei gyflwyno […]