Ar hyn o bryd, mae’r Antur yn rhoi cefnogaeth i dros 67 lleoliad gwaith yn ôl dewis a gallu’r unigolion.  Mae’r cyfleoedd yma yn cynnwys y dewisiadau canlynol:

  • Arlwyo a gweini yng Nghaffi Blas y Waun
  • Cadwraeth y Parc Natur
  • Creu crefftau gyda deunyddiau sydd wedi eu hailgylchu
  • Gwerthu dillad a dodrefn wedi eu hail-ddefnyddio
  • Cyfarch a gofal cwsmer
  • Cynorthwyo gyda’r siop e-fasnach
  • Casglu, didoli a llarpio gwastraff papur
  • Didoli, casglu a thrin tecstiliau
  • Datblygu sgiliau Byw’n Annibynnol adref ac yn y gweithle
  • Datblygu sgiliau cymdeithasu a gweithgareddau hamdden
  • Ennill profiad a chyfleoedd siopa’n annibynnol
  • Garddio a thyfu llysiau
  • Gwaith coed, trin ac ail-ddefnyddio dodrefn
  • Gwaith gweinyddol yn y swyddfa
  • Trwsio, llogi a gwerthu beics o Beics Antur

Mae lleoliadau gwaith yr unigolion ag anableddau dysgu yn gallu amrywio yn unol â’u dewis a dymuniad.  Un enghraifft byw o hyn yw unigolyn sydd yn gwneud gwaith swyddfa am dri diwrnod yr wythnos gan dreulio diwrnod yr wythnos yn ein safle yn Nghaergylchu a diwrnod arall yn y Warws Werdd allan yn y gymuned yn gweithio ar y cynllun dillad.