Ym mha ardaloedd mae gwasanaeth Llarpio Antur yn gweithredu?

Rydym yn darparu gwasanaeth llarpio papur cyfrinachol ar gyfer cartrefi a busnesau yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Pam cefnogi gwasanaeth Llarpio Antur?

Mae Llarpio Antur yn rhan o deulu Antur Waunfawr, sy’n darparu cyfleoedd gwaith i oedolion gydag anableddau dysgu. Wrth ddefnyddio Llarpio Antur, rydych chi’n cynnal swyddi lleol ac yn lleihau ôl-troed carbon. Gallwch chi fod yn sicr bod eich dogfennau cyfrinachol yn cael eu trin gan arbenigwyr yn y maes.

Sut ydw i’n dechrau’r broses o ddefnyddio’ch gwasanaeth llarpio cyfrinachol?

I ddefnyddio ein gwasanaethau, gyrrwch e-bost i ni gyda’ch enw, cyfeiriad a beth hoffech chi gael eich rhwygo (llarpio@anturwaunfawr.cymru). Os ydych chi’n gwsmer newydd ac nad ydych wedi defnyddio ein gwasanaeth o’r blaen, byddwn yn anfon cadarnhad e-bost atoch gyda’n contract GDPR, nodiadau trosglwyddo gwastraff a’r telerau ac amodau. Gofynnwn i chi lofnodi’r rhain a’u hanfon yn ôl atom ni, a hefyd eich bod yn cadw copi ar gyfer eich cofnodion. Mae angen i ni dderbyn y copïau wedi’u llofnodi cyn y gallwn ddechrau casglu eich gwastraff cyfrinachol..

Beth os na allaf ddefnyddio fy nghyfrifiadur i lofnodi’r contractau?

Dim problem, rhowch alwad i ni ar 01286 669330 er mwyn i ni allu trefnu i gopïau post gael eu hanfon atoch.

Sut mae’r gwasanaeth llarpio yn gweithio?

Unwaith y byddwch wedi llofnodi a dychwelyd y dogfennau gofynnol, rydych yn barod i ddefnyddio ein gwasanaeth llarpio. Ffoniwch ni neu anfonwch e-bost atom gyda’r nifer o sachau coch gwag sydd eu hangen arnoch, a byddwn yn gollwng y sachau gwag a theis i glymu yn eich cartref neu’ch busnes. Ar ôl i chi lenwi’r sachau hyn a’u gau gyda thei, ffoniwch neu e-bostiwch ni a gallwn drefnu casgliad i chi. Mae ein faniau allan bob dydd yn ystod yr wythnos (dim ar y penwythnos), ac fel arfer gellir eu casglu o fewn wythnos, neu o fewn pythefnos yn ystod cyfnodau prysur.

Faint mae’r gwasanaeth yn gostio?

Rydym yn codi £6 + TAW ar gyfer pob sach a gesglir. Gallwn gasglu un sach neu gannoedd o sachau gennych! Bydd ein hadran gyllid yn eich anfonebu tua mis ar ôl casglu. Rydych chi’n talu am y nifer o sachau yr ydych yn eu llenwi yn unig.

Alla i ollwng y sachau ar eich safleoedd?

Na, oherwydd rheoliadau GDPR, mae’n rhaid i ni gasglu’r sachau o’ch cartref neu fusnes.

Pa faint yw’r sachau?

Mae’r sachau yn 100cm x 60cm ac yn dal tua 25kg.

Pa eitemau y gallwch chi eu llarpio?

Gallwn llarpio unrhyw ddogfennau papur, ond mae’n rhaid iddynt fod yn y sach goch i ni eu casglu. Gofynnwn i chi beidio â rhoi ffolderi ‘lever-arch’ neu cardfwrdd yn y sachau coch.

Oes angen i mi gael gwared ar styffylau/staples ac ati?
Na, nid oes angen cael gwared o’r rhain.

A oes angen i mi fod yn bresennol ar gyfer casglu a dosbarthu?

Ar gyfer casglu sachau llawn – Yn ddelfrydol, ie, ond mi allwn ni dderbyn sachau sy’n cael ei adael mewn lle diogel, cyn belled â’u bod o fewn cyrraedd. Mae hyn ar eich risg eich hun, ac awgrymir eich bod chi’n cau’r sachau gyda’r tei a ddarperir, a cheisio dod o hyd i rywle saff i’w storio – gwnewch yn siŵr ein bod yn ymwybodol o’u lleoliad.

Ar gyfer dosbarthu sachau gwag – nid oes angen i chi fod mewn, gallwn ffitio’r rhain trwy flychau post.

Pa mor ddiogel yw’r gwasanaeth a ddarperir?

Rydym yn darparu gwasanaeth llarpio cyfrinachol oddi ar ein safle diogel sy’n cael ei fonitro gan CCTV. Mae ein holl staff profiadol yn cael eu gwirio gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ac mae deunyddiau’n cael eu byrnu yn syth ar ôl bod yn ein peiriant llarpio diwydiannol, i safonau GDPR. Mae Antur Waunfawr wedi derbyn “Tystysgrif Achrededig” gan WCS, ar gyfer ISO 14001:2015 ac ISO 9001:2015.

Beth sy’n digwydd i’r papur wedi’i llarpio wedyn?

Caiff y papur wedi’i llarpio ei fyrnu, ac yna caiff y byrnau eu casglu a’u cludo i safle arall lle cânt eu troi’n bapur tusw.

Gyda phwy ddylwn i gysylltu os oes angen rhagor o wybodaeth arnaf am y gwasanaeth?

Gallwch gysylltu â’n swyddfa ar 01286 669330. Os nad oes unrhyw un ar gael, rhowch gynnig ar ein prif swyddfa yn Waunfawr ar 01286 650721. Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy e-bost ar llarpio@anturwaunfawr.cymru

Mae gen i broblem gyda fy anfoneb, gyda phwy y mae angen i mi gysylltu?

Cysylltwch â’r adran gyllid ar 01286 650721 a nodwch eich rhif anfoneb