Mae’r Warws ar gau ar hyn o bryd oherwydd y sefyllfa Covid-19.
The Warws is currently closed due to the Covid-19 situation.
Wedi’i sefydlu yn 2004, mae’r Warws Werdd yn rhan o deulu o fusnesau Antur Waunfawr. Mae’r Warws yn gwerthu dodrefn, nwyddau gwyn a dillad ail-law, yn ogystal ag eitemau eraill, gyda gwasanaeth danfon lleol o amgylch Caernarfon, Bangor, Ynys Môn a Pen-Llyn.
Mae hefyd ystafell gyfarfod yma ar gyfer ei llogi, gyda lle parcio cyfleus, lluniaeth a thechnoleg.
Mae’r Warws yn adeilad newydd pwrpasol ac ym Mai 2011 gosodwyd system PV 17KW ar gyfer creu trydan gan ei wneud yn fwy cynaladwy.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa@anturwaunfawr.cymru neu ffoniwch (01286) 674 155.