Mae’r Antur yn teimlo’n gryf iawn am ddatblygiad personol i bawb.

Mae datblygiad personol yn broses gydol oes. Mae’n ffordd i bobl asesu eu sgiliau a’u rhinweddau, i ystyried eu nodau mewn bywyd ac i osod nodau er mwyn gwireddu a gwneud y mwyaf o’u potensial.

Dyna pam rydym yn cynnig bob math o gyfleoedd datblygu i’r unigolion sy’n derbyn ein gwasanaeth, megis Cymorth Cyntaf, Hylendid Bwyd, teithio annibynnol ar Gludiant Cyhoeddus, Codi a Chario a llawer mwy.

Gareth gyda’i dystysgrif Hylendid Bwyd Lefel 1.

Peter gyda’i dystysgrif ar gyfer teithio annibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus, gyda’r Cynghorydd Wyn Williams a Chadeirydd y Bwrdd, John Gwynedd.