Warws Werdd - partneriaeth ysgolion

Ers Ebrill 2010 mae Antur Waunfawr wedi partneru gyda 66 o ysgolion Gwynedd i gyflawni casgliadau ar gyfer ailddefnyddio dillad.

Darperir adnoddau megis biniau neu sachau, cyhoeddusrwydd a chyflwyniadau ar gyfer y disgyblion gyda’r Antur yn trefnu’r casgliadau yn uniongyrchol gyda’r ysgolion.

Mae’n rhoi cyfle ardderchog i ddisgyblion ddysgu am werth ailgylchu, yr amgylchedd o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol ac mae’r ysgol yn cael taliad am y dillad!