Yng Nghaffi Blas y Waun, mae yna rywbeth at ddant pawb ar y fwydlen. Wedi ei leoli yng nghanol ein gerddi prydferth, mae’r caffi cartrefol yma’n hawdd ei gyrraedd ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a phobl ag anableddau corfforol.
Nid yn unig yw’r caffi yn darparu bwyd a chroeso cynnes, mae hefyd yn rhoi cyfle i’r unigolion sydd yn derbyn gwasanaeth gan yr Antur ddatblygu eu sgiliau coginio a gweini.
Mae rhai gwasanaethau ychwanegol yn cael eu cynnig, megis bwffe ffres neu ddanteithion cartref i’w harchebu, a chynhelir ciniawau cymdeithasol i’r henoed. Yn ychwanegol at redeg y caffi o ddydd i ddydd, mae staff a gweithwyr yn cynhyrchu amrywiaeth o jamiau a siytni cartref, gan ddefnyddio ffrwythau a llysiau a dyfir ar dir Antur. Gall hamperi cael eu darparu hefyd yn cynnwys amrywiaeth o arbenigeddau’r Antur.
Ewch i food.gov.uk/ratings i wirio sgôr hylendid bwyd ein busnes.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Tracey ar (01286) 650 937, neu ebostiwch nhw ar caffi@anturwaunfawr.cymru