Oes gennych chi ddiddordeb gwirfoddoli?Rydym ni bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr, ac mae llawer o gyfleoedd yn cynnwys:

  • Sgiliau gwaith llaw
  • Gwaith coed
  • Cerdded a ffitrwydd
  • Beicio
  • Garddio
  • Tyfu bwyd a bwyta’n iach

Menter gymdeithasol yw Antur Waunfawr, sy’n datblygu cyfleoedd gwaith integredig, hyfforddiant a gofal i bobl ag anableddau dysgu. Holl fwriad yr Antur yw integreiddio a chynnwys oedolion ag anableddau dysgu ym mob agwedd o waith y gymuned.

Rydym yn ymwybodol o’r effaith bositif o gael gwirfoddolwyr yn cyd-weithio gyda chleientiaid yr Antur – mae’r cleientiaid ag anableddau dysgu yn cael cyfarfod pobl newydd a dysgu sgiliau, ac mae’r gwirfoddolwyr yn cael pleser a boddhad wrth gyfrannu’u hamser.

Felly, os oes gennych chi amser sbâr, sgiliau i rannu, ac eisiau cyfarfod a phobl newydd, cael hwyl a chymryd rhan mewn prosiect gwobrwyol, plîs cysylltwch â’r Antur!

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Ellen Thirsk am sgwrs ar 01286 650 721 neu e-bostiwch ellen.thirsk@anturwaunfawr.cymru