Iechyd a Lles a’r brosiect ‘Anturio Ymlaen’

Mae’r Antur wedi derbyn cyllid gan y Gronfa Gofal Integredig i gynnal prosiect sy’n hybu iechyd a lles.

Mae ‘Anturio Ymlaen’ yn brosiect fydd yn trawsnewid cyfleodd iechyd a lles corfforol a meddyliol oedolion ag anableddau dysgu, drwy gynllunio a threfnu gweithgareddau newydd a phwrpasol gwahanol fyddai’n apelio at ystod eang o unigolion, a’u hannog i gymryd rhan a mwynhau.

Mae hyn yn galluogi oedolion ag anableddau dysgu, gan gynnwys oedolion hŷn, i gynyddu ffitrwydd, llesiant, ymgysylltiad gydag eraill ac hapusrwydd – er mwyn lleihau problemau iechyd yn yr hir-dymor.

Mae’r prosiect yn cynnwys:

  •  Mentro – teithiau cerdded, pêl droed cerdded a chyfleoedd hamdden newydd megis teithiau tywys, pysgota a thripiau lleol
  • Beicio – teithiau beicio yn yr awyr agored efo beiciau addasedig
  • Coginio – dysgu am fwyta a choginio yn iach, tyfu bwyd, picnic a chiniawau i gleientiaid newydd
  • Canŵio a hwylio – cefnogi unigolion roi cynnig ar bethau gwahanol a chymryd risg
  • Ymlacio – ymwybyddiaeth ofalgar, yoga, edrych ar ôl iechyd meddwl
  • Trwsio ac ail-ddefnyddio – gwaith coed a gwaith llaw yn ein gweithdy yn y Warws Werdd, a gwaith celf a chrefft yn y Sgubor Fach yn Waunfawr
  • Canu a dawnsio a sgiliau cymdeithasol – datblygu cyfleoedd creadigol, gan gydweithio efo Gefail yr Ynys Caernarfon, mentoriaid megis Annette Bryn Parri a mynychu digwyddiadau megis yr Eisteddfod Genedlaethol.