Menna Jones – Prif-weithredwraig Antur Waunfawr

“Cyn i’r Covid19 daro ddiwedd fis Mawrth, 2020 roedd wedi bod yn flwyddyn gynhyrchiol a sefydlog i Antur Waunfawr. Llwyddwyd i gynnig fwy o wasanaethau ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu ac yn sgil hynny penodwyd fwy o staff i’w cefnogi. Yn ogystal bu’n flwyddyn gynhyrchiol o ran ein buddsoddiadau gyda gwaith yn cychwyn ar Safle Porth yr Aur, a phrosiect y Sied Werdd yng Nghibyn yn derbyn cefnogaeth. Sefydlwyd partneriaethau newydd hefyd ac er gwaethaf y tarfu a fu diwedd y flwyddyn, mae’r rhagolygon tymor hir i’r Antur yn llewyrchus.

Gobeithiaf yn fawr y cewch flas ar ddarllen yr Adroddiad Blynyddol yma sy’n crynhoi prif lwyddiannau ein digwyddiadau a phrosiectau ar hyd y flwyddyn. Blaenoriaethwyd iechyd a llesiant a gwaith y 3 busnes gwyrdd, ond cafwyd digon o hwyl a mwynhad. ‘ Rydym yn hynod falch o ymdrech ac ymroddiad pawb yn yr Antur ac mae llwyddiant y fenter yn perthyn i bawb. Edrychwn ymlaen tuag at 2020 yn hyderus gyda’r nod o gyflawni yr un safon uchel o wasanaeth, darparu profiadau a chyfleoedd ychwanegol i’r gweithlu presennol, ond byddwn hefyd yn ymestyn croeso i bobl newydd.”

Cliciwch yma i weld yr Adroddiad Blynyddol 2019-2020