Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig cymorth sy’n canolbwyntio ar y person i oedolion ag anghenion dwys. Gan ganolbwyntio ar gefnogaeth weithgar, ein prif nod yw darparu gwasanaeth cynhwysol sy’n cynnig ystod o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau personol, er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer pob unigolyn.

Rydym yn helpu unigolion i ddatblygu sgiliau bywyd megis golchi llestri, neu ddefnyddio peiriant golchi neu sugnwr llwch, a hefyd yn cael sesiynau coginio a blasu rheolaidd, gyda’r nod o gynnwys unigolion ym mhob agwedd o’n gwaith.

Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, ac er mwyn gwella iechyd a lles unigolion, mae’n weithgareddau rheolaidd yn cynnwys:

  • sesiynau cerdd a symudiad
  • sesiynau therapi adlam
  • nofio
  • beicio
  • cerdded
  • garddio
  • sesiynau crefft

Rydym hefyd yn treulio digon o amser allan o gwmpas yr ardal leol, sy’n helpu ein hunigolion meithrin sgiliau cymdeithasol hollbwysig, wrth chwarae rhan lawn yn eu cymuned.