Prynodd Antur Waunfawr iard Porth yr Aur gan y Brodyr Pritchard ddiwedd 2017, ac ers hynny rydym wedi bod yn rhedeg ein busnes Beics Antur o’r safle, tra’n cynllunio’r gwaith datblygu.

Bydd y safle yn cael ei ddatblygu yn ganolfan Iechyd a Llesiant, fydd yn adeilad 2 lawr cwbl hygyrch ar gyfer pob gallu corfforol. Bydd yn gartref i brosiect beicio cynhwysol Beics Antur sy’n cynnwys fflyd o feics addasedig, yn ogystal a Llofft Llesiant fydd yn stiwdio ar gyfer cynnal pob math o weithgareddau iechyd a llesiant, ac ar gael i’r cyhoedd ei llogi. Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys ystafell synhwyraidd cwbl unigryw, fydd o fudd i unigolion gydag anableddau dwys neu nam ar y synhwyrau.

Fel y gwyddoch, mae mewn lleoliad delfrydol ar Stryd Fawr Caernarfon, yn agos i lwybrau cerdded a beicio gwastad, ac er mwyn gwneud y gorau o adnoddau eraill sydd gan y dref i’w cynnig.

Mae hwn yn brosiect gwerth £ 1 miliwn, gyda £ 466k wedi’i ariannu gan grantiau amrywiol ac ymgyrch cyllid torfol, a’r gweddill yn fuddsoddiad gan Antur Waunfawr.

Cefnogwyd y prosiect hwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru; y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol; Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru; Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru; a dyfarniad gan sefydliad Garfield Weston.

Amserlen
Penseiri’r prosiect yw Donald Insall Associates, ac mae cwmni MPH wedi eu penodi i ymgymryd â’r gwaith adeiladu. Bydd y gwaith yn cychwyn ar y safle ar y 13 Ionawr 2020, gan anelu i orffen erbyn Mai 2021.

Diweddariadau
Byddwn yn rhoi diweddariadau cyson ar ein rhwydweithiau cymdeithasol, felly sicrhewch eich bod yn dilyn Antur Waunfawr a Beics Antur ar ein tudalennau cymdeithasol! Os oes gennych gwestiynau pellach, cysylltwch â: elain.hughes@anturwaunfawr.cymru