Warws Werdd - llwytho'r fan

Tachwedd 2020 / November 2020:

Mae’r Warws ar gau ar hyn o bryd oherwydd y sefyllfa Covid-19. 

The Warws is currently closed due to the Covid-19 situation.

Ydych chi’n chwilio am fargeinion ar ddodrefn a nwyddau gwyn ail-law ar gyfer eich cartref?

Mae prosiect ailgylchu dodrefn a dillad Warws Werdd wedi’i leoli ar Stâd Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon, gogledd Cymru, ac mae’n gwerthu ystod o ddodrefn a dillad ail law am brisiau arbennig, gyda gwasanaeth danfon lleol o amgylch Caernarfon, Bangor, Ynys Môn a Pen-Llyn.

Rydym yn gwerthu ystod eang o ddodrefn ail law am brisiau anhygoel! Rydym hefyd yn stocio amrywiaeth o ddodrefn diwedd tymor o siopau’r stryd fawr.

Mae’r siop bellach yn cynnig detholiad o nwyddau gwyn ail law, yn cynnwys oergelloedd, rhewgelloedd, peiriannau golchi, sychwyr dillad a mwy, pob un â gwarant wedi’i chynnwys o hyd at 12 mis.

Rydym hefyd yn casglu dodrefn o’ch cartref! Os oes gennych eitemau o ddodrefn o ansawdd da nad ydych chi eu heisiau neu eu hangen, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Rydym yn casglu dodrefn o gartrefi a busnesau, er mwyn eu hailddefnyddio ac, yn y pen draw, lleihau faint o wastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi. (Nodwch, rhaid i’r dodrefn fod o ansawdd da, fel y gellir eu gwerthu ymlaen. Mae angen labeli diogelwch tân ar soffas. Mae angen sticeri gwydr diogelwch ar eitemau gwydr.)

Felly rhowch ganiad i ni ar 01286 674 155, neu galwch heibio i’n gweld! Gallwn gynnig:

  • Maes parcio cyfleus, yn rhad ac am ddim.
  • Gwasanaeth casglu dodrefn, yn rhad ac am ddim.
  • Gwasanaeth danfon dodrefn lleol ar gyfer nwyddau a brynir yn y siop, am gyn lleied â £ 5.00.

Warws Werdd, Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2BD.