Mae’r Antur yn credu fod gan unigolion ag anableddau dysgu’r hawl i fyw bywyd llawn a chymryd rhan ym mhob gweithgaredd fel pawb arall. Er bod pawb yn wahanol, mae rhai anghenion creiddiol yn bwysig i bawb.

Yn bwysig i’r rhan fwyaf ohonom mae:

  • Bod yn rhan o’r gymuned
  • Perthynas dda gyda theuluoedd a ffrindiau
  • Creu perthnasau
  • Dysgu sgiliau newydd a chael profiadau newydd
  • Digon o ddewis
  • Statws a chael eu parchu
  • Cael eu trin fel unigolyn

gareth 483Lle yn bosib, mae’r staff yn camu’n ôl a gadael i’r unigolion sy’n derbyn gwasanaeth wneud gymaint ag sydd bosibl dros eu hunain. Lle mae angen cefnogaeth gyda thasgau, mae’r staff yn rhoi’r lefel cywir o gefnogaeth sydd ei angen, ac yn ofalus i beidio â rhoi gormod neu wneud pethau dros yr unigolion os nad oes angen.

Rydym hefyd yn defnyddioPeter 697 cefnogaeth weithgar i helpu’r unigolion gyrraedd eu dyheadau.

Cefnogaeth yn y cartref

Mae Cartrefi’r Antur yn cefnogi unigolion yn eu cartrefi eu hunain, ac yn rhoi cyfle i bob unigolyn gymryd rhan lawn yn y gwaith o redeg eu cartref. Mae hyn yn cynnwys:

  • Datblygu a gwella sgiliau bywyd annibynnol yn y cartref
  • Cefnogaeth lawn â materion ariannol
  • Cymorth gyda siopa a ‘Bwyta’n Iach’

elfed a sue 212 elfed a sue 210