Hamdden

Mae Antur Waunfawr yn awyddus i alluogi’r unigolion sy’n derbyn gwasanaeth i fyw bywydau cyflawn sy’n cynnwys cyfleoedd hamdden mentrus o’u dewis, nosweithiau cymdeithasol rheolaidd, gwyliau blynyddol a diwrnodau allan.  Ar sail hyn, rydym yn cynnig hamdden a gwyliau ar gyfer ein unigolion ag anableddau dysgu.

Mae’r cynllun yn darparu gwasanaeth hamdden a therapiwtig ar gyfer ein unigolion fel opsiwn ychwanegol i’r gwasanaeth dydd arferol.

Hamdden - Taith GerddedMae’r gweithgareddau yma’n cynnwys teithiau cerdded, beicio, nofio a.y.b. yn ogystal â’r gwasanaeth therapiwtig a’n ystafell sensori yn Waunfawr. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth hamdden gyda’r nos ac ar benwythnosau.

Hamdden - Gemau Rotari - Manon a BrynCeir sesiynau unigol, fel mynd i’r gampfa i gadw’n heini, siopa neu mynd i chwarae bingo. Yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn cynnal nifer o weithgareddau mewn grwpiau sydd ar agor i bawb – gweithgareddau cymdeithasol megis bowlio 10, nosweithiau pysgota a thripiau i’r theatr. Gall staff y cynllun hefyd gynorthwyo unigolion i fynychu gweithgareddau yn y gymuned leol e.e. i fynychu hyfforddiant cyfrifiaduron neu gymryd rhan mewn gweithgareddau ioga neu ddawnsio llinell.

Gwyliau

Hamdden - Llundain - Keith a PeterMae’r gwasanaeth yma ar agor i holl unigolion sydd yn derbyn gwasanaeth gan Antur Waunfawr a gallwn ehangu’r cyfleon yma i unigolion ag anableddau dysgu tu allan i’n gwasanaeth ni.  Mae’r gwasanaeth gwyliau yma’n cynnwys nosweithiau i ffwrdd (e.e. i fynd i weld cyngerdd pop), penwythnosau i ffwrdd (penwythnos siopa) a gwyliau wythnos llawn neu fwy – i gyd yn cael ei deilwra gan ddiddordebau ac anghenion yr unigolion.

Gall y gwyliau fod yn lleol, o fewn y DU neu dramor.  Yn ystod y blynyddoedd diweddar rydym wedi trefnu penwythnosau i ffwrdd yn Llandudno, Llundain, Glanllyn, Caerdydd, Amwythig, Sheffield a gwyliau i Florida, Norwy, Ffrainc, Swistir, Estonia a’r Iseldiroedd.

I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth yma ynghyd â chostau cysylltwch â heulwen@anturwaunfawr.cymru.