Mae pob math o grefftau yn cael eu gwneud a’u gwerthu yn y siop, gan ddefnyddio papur a deunyddiau wedi’u hailgylchu:
- Cardiau cyfarch
- Tagiau anrhegion
- Darnau papier-mâché
- Placiau a phlatiau addurniadol
- Eitemau addurniadol gan ddefnyddio llechi, cregyn a broc môr.
Gall pob eitem gael ei bersonoli.
Mae’r criw crefftau’n hoff iawn o groesawu pobl yma o bob cwr o’r byd, felly dewch i fyny i Waunfawr i weld y gwaith arbennig maent yn ei wneud. Cewch gyfarfod y tîm, a gwylio nhw’n creu bob math o grefftau yn y fan a’r lle. Wedyn, mwynhewch ein gerddi prydferth, a gorffenwch eich ymweliad gyda phaned a chacen yn ein caffi. Bydd croeso cynnes yn disgwyl amdanoch!