Mae Llarpio Antur yn rhan o deulu Antur Waunfawr, sy’n darparu cyfleoedd gwaith i oedolion gydag anableddau dysgu. Wrth ddefnyddio gwasanaeth Llarpio Cyfrinachol Antur, rydych chi’n cefnogi unigolion gydag anableddau dysgu yn eu cymuned, cynnal swyddi lleol, ac yn lleihau ôl-troed carbon.

Efo diddordeb? Darllenwch ein ‘Cwestiynau Cyffredin’ yma

Ein gwasanaethau

  • Mae Llarpio Antur yn darparu gwasanaeth llarpio cyfrinachol i fusnesau ac unigolion yng Ngwynedd, Ynys Môn ac ar hyd Arfordir Gogledd Cymru.
  • Rydym yn arbenigo mewn llarpio papur cyfrinachol.
  • Rydym yn dinistrio gwastraff cyfrinachol i fewn i stribedi 10mm.
  • Rydym hefyd yn ailgylchu papurau swyddfa gyffredinol sydd ddim yn gyfrinachol.

Ein harbenigedd

  • Rydym yn gwmni arbenigol gyda 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant ailgylchu.
  • Rydym yn cynnig gwasanaeth Llarpio cyfrinachol oddi ar safle diogel, gyda chamerâu CCTV yn gwarchod y safle.
  • Cyflawnir yr holl waith gan ein staff profiadol, a archwiliwyd gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.
  • Mae’r deunydd yn mynd yn syth i fyrnwr ar ôl bod yn ein llarpiwr diwydiannol cyn mynd i’r felin ar gyfer ei droi’n bapur tusw.

Gwasanaeth teilwredig a phwrpasol

  • Rydym yn darparu gwasanaeth wedi teilwra i’ch anghenion chi, a gallwn gasglu un sach neu gannoedd o sachau gennych.
  • Casgliadau o swyddfeydd neu gartrefi, a dim lleiafswm ar gyfer y gwasanaeth casglu
  • Casgliadau un-tro neu reolaidd – rhowch ganiad i ni!
  • Gallwn ddarparu tystysgrif llarpio ar gyfer eich cofnodion.

Cefnogwch fenter gymdeithasol leol

  • Mae Llarpio Antur yn rhan o deulu Antur Waunfawr, sy’n darparu cyfleoedd gwaith i oedolion gydag anableddau dysgu.
  • Wrth ddefnyddio Llarpio Antur, rydych chi’n cynnal swyddi lleol, yn lleihau ôl-troed carbon.
  • Rydym yn falch i ddarparu gwasanaeth dwyieithog gyda staff sy’n siarad Cymraeg. Gallwch chi fod yn sicr bod eich dogfennau yn cael eu trin gan arbenigwyr yn y maes.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â depo Caergylchu, Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, LL55 2BD ar 01286 669 330, neu ebostiwch llarpio@anturwaunfawr.cymru

 

 

 

 

 

 

Mae Antur Waunfawr wedi derbyn “Tystysgrif Achrededig” gan WCS. Mae’r tystysgrif yma am Menter Gymdeithasol, gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu. Gweithgareddau Ailgylchu Cymysg Sych. Ailgylchu, Trwsio ac Ailddefnyddio Dodrefn a Thecstilau, Gwerthu Beiciau, llogi, atgyweirio ac addasu.