Rhodd PayPal wedi’i ganslo
Mae eich rhodd PayPal wedi’i ganslo. Os hoffech chi roddi, plîs trïwch eto. Diolch yn fawr
Mae eich rhodd PayPal wedi’i ganslo. Os hoffech chi roddi, plîs trïwch eto. Diolch yn fawr
Mae ein Prif Weithredwraig, Menna Jones, wedi bod yn rhan o Weledigaeth a Chynllun Gweithredu ‘Trawsnewid Cymru Trwy Fenter Gymdeithasol’ a lansiwyd yr wythnos diwethaf, ac mae’n amlinellu fframwaith ar sut i roi’r sector Menter Gymdeithasol ar flaen y gad o ran adferiad economaidd yng Nghymru. Wedi’i lunio ar y cyd gan fentrau cymdeithasol ac […]
Dyma newyddlen Antur Waunfawr, Gorffennaf-Awst 2020. Cliciwch yma i’w ddarllen
Dyma newyddlen Antur Waunfawr, Mai-Mehefin 2020. Cliciwch yma i’w ddarllen
Dyma newyddlen Antur Waunfawr, Ebrill-Mai 2020. Cliciwch yma i’w ddarllen
Mae Antur Waunfawr yn parhau i fonitro’r canllawiau swyddogol gan y Llywodraeth ac awdurdodau iechyd cyhoeddus yn fanwl, ac yn ymateb yn unol â’r rhain er mwyn amddiffyn iechyd a llesiant yr unigolion rydym ni’n eu cefnogi, ein staff a’n cwsmeriaid Mae ein safle Waunfawr (yn cynnwys caffi, siop a gerddi), a’n safleoedd Warws Werdd […]
Prynodd Antur Waunfawr iard Porth yr Aur gan y Brodyr Pritchard ddiwedd 2017, ac ers hynny rydym wedi bod yn rhedeg ein busnes Beics Antur o’r safle, tra’n cynllunio’r gwaith datblygu. Bydd y safle yn cael ei ddatblygu yn ganolfan Iechyd a Llesiant, fydd yn adeilad 2 lawr cwbl hygyrch ar gyfer pob gallu corfforol. […]
Mae clwb ieuenctid Waunfawr ‘Beganifs’ wedi cyrraedd rhestr fer grant ‘Eich Cymuned, Eich Dewis’ Heddlu Gogledd Cymru. Mae’r fenter gymdeithasol Antur Waunfawr wedi bod yn rhedeg y clwb ar eu safle yn Waunfawr, gyda chefnogaeth Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Gwynedd, mewn ymgais i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y pentref. Mae’r clwb yn cynnig ystod o weithgareddau, […]
Mae cyfnod yr ŵyl bob amser yn amser prysur i ni, ac nid oedd 2019 yn eithriad! Roedd rhai o’r uchafbwyntiau eleni yn cynnwys … Ein ffair Nadolig flynyddol Miri Sion Corn, gyda cherddoriaeth, stondinau a bwyd a diod blasus! Mynychu ffeiriau Nadolig gyda’n crefftau cartref, gan gynnwys Ysgol Pendalar a Nant Gwrtheyrn Cymryd rhan […]
Mae Antur Waunfawr yn falch iawn o fod wedi cael canmoliaeth uchel am y wobr Ymddiriedolwyr Rhagorol yng Ngwobrau Elusennau Cymru a gynhaliwyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo fawreddog yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ar nos Wener 15 Tachwedd, gyda sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru yn cael eu cydnabod am eu gwaith […]
Roedd hi’n ddiwrnod prysur ddoe wrth i Feics Antur symud i gartref dros dro, yn barod i’r gwaith adeiladu fydd yn cychwyn ar safle’r siop ym Mhorth yr Aur, Caernarfon. Mae’n wasanaethau llogi, gwerthu a thrwsio nawr yn digwydd o’n safle Warws Werdd. ? Warws Werdd, Stâd Diwydiannol Cibyn Industrial Estate, Caernarfon, LL55 2BD ? […]
Mae paratoadau’n parhau ar gyfer canolfan beicio a llesiant cynhwysol ar safle hanesyddol Porth yr Aur yng nghanol tref Caernarfon, gyda chynllun cyllid torfol wedi cychwyn. Mae Beics Antur yn rhan o deulu Antur Waunfawr, menter gymdeithasol sy’n darparu gwaith a hyfforddiant i oedolion ag anableddau dysgu yn eu cymunedau. Roedd yr hen siop wedi’i […]
Mae stori ein blwyddyn yn rhoi cipolwg ar flwyddyn brysur ac uchafbwyntiau Antur Waunfawr dros y cyfnod. O’r gwaith rydym yn ei wneud i gefnogi unigolion i fyw bywydau llawn a bod yn rhan o’u cymunedau, i’r prosiectau a’r datblygiadau sydd wedi digwydd ar draws ein gwasanaethau. Mae’n gyfle i ddathlu llwyddiannau ein pobl, diolch […]
Mae Warws Werdd, safle ailddefnyddio dodrefn a dillad yng Nghaernarfon sy’n rhan o deulu Antur Waunfawr, yn arddangos gwaith celf newydd lliwgar yn y siop, ac mae’r artist angen eich help chi i’w enwi! Mae Reece Ogden, 19, newydd gwblhau ei gwrs sylfaen mewn celf yng Ngholeg Menai gyda rhagoriaeth, ac arddangoswyd ei waith yn […]
Ym mha ardaloedd mae gwasanaeth Llarpio Antur yn gweithredu? Rydym yn darparu gwasanaeth llarpio papur cyfrinachol ar gyfer cartrefi a busnesau yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Pam cefnogi gwasanaeth Llarpio Antur? Mae Llarpio Antur yn rhan o deulu Antur Waunfawr, sy’n darparu cyfleoedd gwaith i oedolion gydag anableddau […]
