Yn ôl

Mae cyfnod yr ŵyl bob amser yn amser prysur i ni, ac nid oedd 2019 yn eithriad! Roedd rhai o’r uchafbwyntiau eleni yn cynnwys …

  • Ein ffair Nadolig flynyddol Miri Sion Corn, gyda cherddoriaeth, stondinau a bwyd a diod blasus!
  • Mynychu ffeiriau Nadolig gyda’n crefftau cartref, gan gynnwys Ysgol Pendalar a Nant Gwrtheyrn
  • Cymryd rhan yng nghyngerdd Nadolig ‘Dawns i Bawb yn Galeri Caernarfon
  • Gwerthu ein seidr cartref Perllan y Fro a’n sudd afal, yn ogystal â chrefftau a thorchau Nadolig
  • Gweini cinio Nadolig blasus yng nghaffi Blas y Waun
  • Cinio Nadoligaidd gwych i drigolion lleol ochr yn ochr â thîm ‘Pontio’r Cenedlaethau’ Cyngor Gwynedd
  • Brecwast gyda Siôn Corn yng nghaffi Blas y Waun, gyda phlant o Ysgol Waunfawr
  • Creu addurniadau coed Dolig gyda CARN yn Galeri Caernarfon
  • Cymryd rhan yn noson Goleuo’r Goeden pentref Waunfawr
  • Siopa Nadolig yn Lerpwl ar gyfer unigolion a staff Antur Waunafwr
  • Ein Parti Nadolig blynyddol yng Ngwesty’r Victoria, Llanberis, gyda bwyd, cerddoriaeth a dawnsio!
  • …a mwy!

Diolch am eich holl gefnogaeth barhaus, a gobeithio am flwyddyn brysur a llwyddiannus arall yn 2020!
Hoffai Antur Waunfawr ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i’n holl ffrindiau a chwsmeriaid!

Yn ôl