Yn ôl

Mae Antur Waunfawr yn parhau i fonitro’r canllawiau swyddogol gan y Llywodraeth ac awdurdodau iechyd cyhoeddus yn fanwl, ac yn ymateb yn unol â’r rhain er mwyn amddiffyn iechyd a llesiant yr unigolion rydym ni’n eu cefnogi, ein staff a’n cwsmeriaid

Mae ein safle Waunfawr (yn cynnwys caffi, siop a gerddi), a’n safleoedd Warws Werdd a Beics Antur yng Nghaernarfon, ar gau i’r cyhoedd, ond maent yn parhau i fod ar agor i staff Antur Waunfawr ac unigolion ag anableddau dysgu. Ar hyn o bryd mae ein gwasanaeth llarpio cyfrinachol ‘Llarpio Antur’ yn parhau i weithredu.

Mae rhagofalon ychwanegol yn cael eu cymryd ar bob safle, gan gynnwys golchi dwylo’n rheolaidd, glanweithiwr dwylo ar gael, glanhau dwfn a diheintio adeiladau a swyddfeydd yn rheolaidd, a gorfodi mesuriadau cadw pellter cymdeithasol lle’n bosib.

Mae Antur Waunfawr yn parhau i ddarparu gwasanaeth gofal cartref a gwasanaeth dydd. Mae teuluoedd / gofalwyr rhai unigolion wedi penderfynu hunan-ynysu ac felly nid yw’r unigolion hyn yn derbyn cymorth gwasanaeth dydd yn Antur Waunfawr ar hyn o bryd. Mae rhagofalon ychwanegol yn cael eu cymryd i amddiffyn staff ac unigolion o fewn y gwasanaethau gofal; mae’r holl weithgareddau allanol wedi’u canslo ac mae staff yn gorfodi mesurau hylendid caeth a mesuriadau cadw pellter cymdeithasol lle’n bosib.

Mae’r tîm rheoli uwch yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n ddyddiol, ac yn dilyn y canllawiau yng Nghynllun Parhad Busnes Antur Waunfawr er mwyn cynllunio ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol a diogelu iechyd a lles unigolion a staff.

Yn ôl