Yn ôl

Mae clwb ieuenctid Waunfawr ‘Beganifs’ wedi cyrraedd rhestr fer grant ‘Eich Cymuned, Eich Dewis’ Heddlu Gogledd Cymru. Mae’r fenter gymdeithasol Antur Waunfawr wedi bod yn rhedeg y clwb ar eu safle yn Waunfawr, gyda chefnogaeth Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Gwynedd, mewn ymgais i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y pentref.

Mae’r clwb yn cynnig ystod o weithgareddau, gan gynnwys coginio, gemau, cerddoriaeth a garddio, yn seiliedig ar ddiddordebau’r bobl ifanc. Mae hyn yn rhoi cyfle iddynt gymdeithasu a dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd diogel, mewn ffordd nad yw’n tarfu ar weddill y gymuned.
Mae’r unigolion yn teimlo perchnogaeth dros y clwb ac yn falch iawn ohono. Mae cynnal y clwb ar safle’r Antur hefyd wedi rhoi mewnwelediad iddynt o’r gwaith gwerthfawr mae mentrau cymdeithasol yn ei wneud o fewn cymunedau, ac mae hyn wedi ennyn parch.

Mae’r clwb wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau codi arian yn y pentref ac yn niwrnodau agored Antur Waunfawr, gan gynnal stondinau gwerthu cacennau a gwerthu bric a brac. Ers cychwyn y bartneriaeth gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid, does dim achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi codi ar safle Antur Waunfawr.

I sicrhau’r cyllid hwn, mae’r prosiect angen eich pleidlais chi! I bleidleisio, anfonwch e-bost gwag gyda’r pwnc ‘Beganifs’ i: yourcommunityyourchoice@nthwales.pnn.police.uk
Gallwch bleidleisio hyd at 4 gwaith.

Yn ôl