CyflwyniadWaunfawr looking toward Mynydd Eilio

Rhimyn hir o bentref yw’r Waunfawr, cyfuniad o fân gymunedau rhwng Treflan a Chroesywaun.  Fe’u hasiwyd gyda sefydlu’r Capel MC a thwf y mân chwareli o’i chwmpas.  Hyd hanner canrif yn ôl, roedd cyffiniau Waunfawr yn llythrennol yn waun fawr, sef ardal eang lom o dyddynnod â thir wedi ei achub o’r grug a’r graig.  Rhannai’r tyddynwyr eu hamser rhwng y caeau a’r chwarel, y math o fywyd a anfarwolwyd gan y nofelydd o Rostryfan, Kate Roberts.  Iddi hi, “nefoedd” oedd y Waunfawr ac yn wir nefoedd oedd yr ardal ar y pryd i’r grugiar, y gog a’r gylfinir, sydd ill tri bellach yn brysur ddiflannu o’r tir.  Daeth tro ar fyd, ac erbyn hyn mae coed yn ymledu a chyfleoedd i adar newydd fel y gnocell fraith ar gwybedog.  O olion chwarel gwenithfaen Parc Dudley, sefydlwyd Gwarchodfa Natur Leol dan ofal Cyngor Gwynedd.

Gyda Waunfawr stationthrai ym mwrlwm diwylliannol oes aur y capel a’r chwareli, bu i economi’r pentref gryfhau yn ddiweddar gydag atgyfodiad “y tren bach,” sefydlu Antur Waunfawr a dyfodiad tafarn ar gyrion y pentref.  Gwaharddwyd tafarnau dan ddylanwad y Mudiad Dirwest.  Daw’r tren a chyfleon newydd a’r gobaith yw y byddwch yn cael budd o ddilyn y llwybrau gynt heibio i Hafod Oleu, Bompren Gwredog, Waun Bant a nifer o lecynnau eraill a darganfod neu ail-ddarganfod peth o’r gogoniant.

Y TEITHIAU

Mae’r cylchdeithiau i gyd yn dechrau o Ganolfan Waunfawr lle mae’r arwyddion yn ymddangos ar yr hysbysfwrdd. Yno fe welwch hefyd fapiau yn dangos y teithiau.

Gallwch hefyd godi’r llwybrau o Antur Waunfawr, menter gymdeithasol lleol a gafwyd ei sefydlu yn 1984 i gynnig gwaith a hyfforddiant i bobl gydag anableddau dysgu.  Mae yna gaffi a chroeso cynnes yma ar ddyddiau gwaith.

Yr Hen Waun  Taith fer o gwmpas yr hen pentref.

Y Groeslon  Taith o gwmpas Groeslon Uchaf, pentref a godwyd ar gyfer chwarelwyr Cefn Du. Mae’n mynd heibio olion gwaith arloesol trosglwyddyddion radio Marconi.

Dogfen – Y Groeslon

Hafod Olau  Taith hirach heibio Hafod Olau, cartref y mapiwr 18ed ganrif John Evans a dreuliodd ddiwedd ei oes gyda llwyth y Mandaniaid yn mapio’r afon y Missouri. Yn Antur Waunfawr mae yna arddangosfa fechan, i’w weld ar gais, yn dangos hanes bywyd yr anturiwr ddigydnabyddig hwn. I’r rhai mwy sylwgar, mae olion trin y tir yn y canol oesoedd rhwng tyddynod Grasbil a Thy Pellaf.

Pompren Wredog or Y Bompren Taith hirach eto yn croesi’r afon Gwyrfai dros Bompren Gwredog. Nid pont bren sydd yno bellach ond pont fetel hynod o ddiogel ond heb fod y peth delaf! Yma y bu plant lleol yn dod i neidio i bwll gerllai oddiar y Garreg Blwm ar ddyddiau hirfelyn yr haf.

Dogfen – Pompren Wredog

Betws Garmon afon Gwyrfai

Waun Bant  Taith hir heibio rhostir Cefn Du. Yn “Waun Pant” bu un o feirdd enwocaf y pentref, sef Owen Gwyrfau yn y 19eg Ganrif, ddweud iddo weld y planedau liw dydd! Cafodd yr ardal ei phlannu yn y 1960au a’i chlirio yn ddiweddar. Hwn efallai ydi’r daith mwyaf amrywiol sydd yn cynnwys tir amaethyddol, gwaundir, coed connwydd ac eglwys hynafol Betws Garmon a’i mynwent.

Y Lôn WenMoel Smytho  Taith hir arall yn arwain i fyny’r Alltgoed Mawr i’r plwyfi nesaf, sef Betws Garmon a Llandwrog Uchaf i ardal a anfarwolwyd gan “Frenhines ein Llên” Kate Roberts. Mae’r daith yn croesi copa (isel!) Moel Smytho cyn cyffwrdd rhan o’r Lôn Wen syn croesi Moel Tryfan. Dyma’r lôn sy’n arwain yn ôl Kate Roberts, o Rosgadfan i’r Waunfawr (“ac i’r nefoedd”!)

Dogfen – Moel Smytho