Yn ôl

Mae Antur Waunfawr wedi bod yn cydweithio gyda grŵp Ffrindiau Penygroes, er mwyn creu arwyddion blodau i roi i fyny o amgylch y pentref, i annog pobl i yrru’n ddiogel.

Mae’r arwyddion newydd yn dyblu fel planwyr blodau deniadol ac maent wedi’u lleoli ar bob ffordd i mewn i’r pentref.

Dywedodd Dewi Jones, Is-reolwr Iechyd a Llesiant yn Antur Waunfawr: “Mae rhai unigolion Antur Waunfawr wedi parhau i dderbyn cefnogaeth dydd drwy gydol y pandemig, ac mae gweithio ar y prosiect yma wedi rhoi gwir deimlad o gyflawniad i bawb. Rydym yn falch eu bod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pwrpas mor bwysig yn y pentref, ac rydym wedi mwyhau cydweithio efo Ffrindiau Penygroes i gyflawni’r prosiect.”

Dywedodd Cynghorydd  Judith Humprheys, sy’n cynrychioli ward Penygroes: “Mae grŵp Ffrindiau Penygroes wedi ymroi i sbarduno newidiadau er gwell ym Mhenygroes. Mae’r grŵp yn awyddus i geisio gwella golwg y pentref ynghyd ag ymateb i bryderon trigolion y pentref.

“Mae’r Nodweddion Mynediad yma’n bartneriaeth rhwng Ffrindiau Penygroes â Chyngor Gwynedd, Antur Waunfawr, busnesau lleol ac Ysgol Bro Lleu ynghyd â chefnogaeth pellach gan Cîst Gwynedd a Chyngor Cymuned Llanllyfni.

“Drwy gydweithio fel hyn rydym rŵan yn gallu gosod arwyddion a blodau yn y lleoliadau sy’n arwain mewn i’r pentref, hynny yw, wrth i yrwyr gyrraedd y pentref. Mae arwyddion arbennig gyda neges ynglŷn â diogelwch ffyrdd arnynt wedi eu dylunio gan ddisgyblion Ysgol Bro Lleu.

“Y gobaith yw y bydd hyn yn gyrru neges i’r gyrwyr eu bod yn cyrraedd ardal drefol poblog ac yn eu hannog i arafu. Rydym yn ddiolchgar iawn i Antur Waunfawr am y gwaith gwych a’r cydweithio braf.”

 

 

 

 

Yn ôl