Yn ôl

Mae paratoadau’n parhau ar gyfer canolfan beicio a llesiant cynhwysol ar safle hanesyddol Porth yr Aur yng nghanol tref Caernarfon, gyda chynllun cyllid torfol wedi cychwyn.

Mae Beics Antur yn rhan o deulu Antur Waunfawr, menter gymdeithasol sy’n darparu gwaith a hyfforddiant i oedolion ag anableddau dysgu yn eu cymunedau. Roedd yr hen siop wedi’i lleoli ar y Cei Lechi yng Nghaernarfon ond prynodd Antur Waunfawr yr Iard ar safle Porth yr Aur ym mis Tachwedd 2017 gyda cynlluniau i ddatblygu ac ehangu’r  busnes.

Yn ogystal a llogi, gwerthu a gwasanaethu beics, bydd Beics Antur yn darparu cyfleoedd iechyd a llesiant unigryw i unigolion ag anableddau. Bydd yn gweithredu fel canolbwynt llesiant i’r gymuned leol, gydag ystafell weithgareddau pwrpasol ar gael i’w llogi ar y llawr cyntaf, cyfleusterau hygyrch, yn ogystal ag ystafell synhwyraidd sy’n addas ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu neu nam ar y synhwyrau.

Ym mis Ionawr 2019, penodwyd Donald Insall Associates yn benseiri ar gyfer y prosiect, ac ers hynny fe basiwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad. Mae’r dogfennau tendro ar gyfer gwaith adeiladu allan efo’r darpar gontractwyr, a bydd contractwyr wedi eu penodi erbyn mis Tachwedd, gyda’r gwaith adeiladu yn cychwyn yn fuan wedyn. Yn ystod y cyfnod adeiladu, bydd busnes Beics Antur yn symud dros dro i’r Warws Werdd, sef busnes ail-ddefnyddio dodrefn a dillad Antur Waunfawr ar Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Antur Waunfawr wedi llwyddo i sicrhau £465,964 o arian grant ar gyfer y prosiect, ac mae codi arian yn parhau gydag ymgyrch cyllid torfol yn cael ei lansio mis yma.

Dywedodd Menna Jones, prif weithredwraig Antur Waunfawr: “Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn i’r Antur; bydd y safle’n agored i bawb a bydd yn ganolfan ar gyfer darpariaeth Antur Waunfawr yn y dref. Rydym yn rhagweld y bydd y prosiect yn arwain at bum lleoliad gwaith newydd i unigolion ag anableddau, yn ogystal â swyddi ychwanegol a darparu cyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith newydd yn y dref.

“Rydym  wedi bod mewn trafodaethau gyda llawer o bobl a sefydliadau lleol ynglŷn â sut gallwn  weithio gyda’n gilydd er budd y gymuned, gan ddarparu gofod hygyrch, pwrpasol ar gyfer grwpiau cymunedol a dosbarthiadau, yn cynnwys grwpiau ieuenctid, dosbarthiadau ffitrwydd a grwpiau mam a’i phlentyn.

“Rydym wedi  lansio ymgyrch Crowdfunder mis yma, ac yn apelio am gefnogaeth pobl a busnesau lleol i’n helpu i gyrraedd ein targedau codi arian a darparu’r ased gwerthfawr yma i’r dref.”

I gefnogi ymgyrch codi arian Beics Antur, ewch i: www.crowdfunder.co.uk/beics-antur

Yn ôl