Yn ôl

☑️ Pleidleisiwch i ni!  ☑️

Mae ein prosiect Gloywi Iechyd yn gymwys ar gyfer arian Gronfa Gymunedol Wledig Calor, ac rydym angen eich pleidlais chi i helpu i wireddu’r prosiect cyffrous hwn!

Bydd prosiect Gloywi Iechyd yn brosiect cymunedol a byddwn yn gweithio efo Meddygfa Waunfawr gyda’r bwriad o bontio’r bwlch cenhedlaeth. Byddwn yn cynnig cyfleoedd i unigolion sy’n dioddef o unigrwydd yn y gymuned i gymryd rhan mewn gweithgareddau a sesiynau iechyd a llesiant ynghyd ag unigolion Antur Waunfawr. Byddwn hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Heddlu Gogledd Cymru a PCSOs lleol i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned.

Os oes gennych ddiddordeb i darganfod mwy am y prosiect cyffrous hwn, galwch i mewn i Gaffi Blas y Waun, Waunfawr, ar ddydd Mercher 22 Mai am 2pm, am sgwrs anffurfiol a phaned o de!

? Pleidleisiwch ar gyfer y prosiect cyffrous yma! ?

Cliciwch yma i bleidleisio!

 

Yn ôl