Yn ôl

Mae Antur Waunfawr yn hapus iawn i gyhoeddi y bydd y cerddor Gruff Rhys yn ymuno â nhw fel rhan o’u dathliadau 35 mlynedd, ar gyfer gig acwstig arbennig iawn yn Galeri, Caernarfon, ar nos Sadwrn 22 Mehefin.

Wedi’i sefydlu ym 1984 gan R Gwynn Davies, mae Antur Waunfawr yn darparu cyfleoedd gwaith ac hyfforddiant i oedolion ag anableddau dysgu yn eu cymuned, ac mae Gruff wedi bod yn gefnogwr o’u gwaith ers blynyddoedd.

Mae’r noson yn cychwyn gyda perfformiad gan unigolion Antur Waunfawr, a’r cerddor Annette Bryn Parri yn arwain. Mae Annette wedi bod yn cynnal sesiynau cerddoriaeth rheolaidd yn yr Antur, ac mae’r unigolion yn edrych ymlaen yn fawr i berfformio.

Yna bydd Gruff Rhys ac Osian Gwynedd yn cymryd i’r llwyfan i arwain noson anhygoel o gerddoriaeth Gymraeg.

Ymwelodd Gruff, a fagwyd ym Methesda, ag Antur Waunfawr ddiwethaf yn 2012 fel rhan o’i brosiect ‘American Interior’, wrth iddo ddilyn ôl troed yr archwiliwr a’i hynafiad  o’r 18fed ganrif , sef John Evans, o Waunfawr.

Yn adnabyddus am ei waith unigol ac am ei lwyddiant gyda’r Super Furry Animals, mae Gruff yn cael ei adnabod fel un o dalentau mwyaf unigryw a chreadigol Cymru.

Dywedodd Menna Jones, prif weithredwraig Antur Waunfawr: “Mae’n flwyddyn arbennig i Antur Waunfawr wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd yn 35 oed. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar wella iechyd a llesiant oedolion ag anableddau dysgu, ac mae cerddoriaeth yn dod â llawer o hwyl ac hapusrwydd i’r unigolion rydym yn eu cefnogi.

“Mae’r gig hon yn gyfle prin i weld Gruff yn perfformio i’w gefnogwyr adref, ac ni allwn ddisgwyl i’w groesawu i’r Antur unwaith eto.”

Cynhelir y gig am 7:30yh ar nos Sadwrn 22 Mehefin 2019, yn Galeri Caernarfon.

Mae tocynnau ar werth o 10yb ddydd Mercher 10 Ebrill gan Galeri Caernarfon, 01286 685222 neu galericaernarfon.com

Yn ôl