Yn ôl

Mae’r Antur wedi llwyddo i ennill ail-achrediad o dystysgrif amgylcheddol gydnabyddedig a fydd o gymorth i ni wrth geisio am waith.

Mae ail-achrediad o’r ISO14001 yn golygu ein bod yn cwrdd â gofynion ar gyfer system rheoli amgylcheddol sy’n cael ei adnabod yn rhyngwladol.

Yn ei adroddiad, dywedodd yr Archwilydd hefyd fod amgylchedd gofalgar yr Antur yn “chwa o awyr iach,” a bod “mwynhad, rhyddhad a grymuso’r ‘cleientiaid’ yn amlwg i weld, gyda’u hiaith corff a rhyngweithiad yn dangos eu bod yn teimlo lefel uchel o fwynhad a grymuso.”

Dywedodd Menna Jones, Prif Weithredwraig yr Antur: “Wrth gwrs, rydym yn falch iawn o fod wedi cyflawni ail-ardystio’r achrediad pwysig hwn, ond yn hynod falch dderbyn canmoliaeth mor uchel o ran ein hansawdd gofal hefyd. Mae’n destament i waith caled ac ymroddiad ein staff, sydd bob amser yn sicrhau fod safonau uchel yn cael eu bodloni a’u cynnal.”

Y llynedd, wnaeth yr Antur ailgylchu dros 40 tunnell o ddodrefn, 115 tunnell o ddillad, 621 tunnell o blasting a 300 tunnell o bapur swyddfa.Mark a Dafydd Andrew

Yn ôl