Yn ôl

Mae’r Antur yn rhan o brosiect partneriaeth cyffrous yng Nghaernarfon sydd am uchafu’r fantais economaidd o dwristiaeth treftadaeth yn y Dref, ac sy’n hyrwyddo’r asedau naturiol, diwylliannol a hanesyddol sydd o bwys rhyngwladol.

Wedi’i sefydlu yn 2012, mae’r Rhaglen Adfywio Glannau Caernarfon yn anelu i ddatblygu rhai o’r ardaloedd allweddol mewn perthynas â dirywiad ardal y glannau yng Nghaernarfon. Fel y bydd ein cefnogwyr yn gwybod, mae siop feiciau’r Antur, sef Beics Menai wedi ei leoli ar y Cei Llechi, ac felly bydd yng nghanol y newidiadau. Mae’r rhaglen yn cael ei harwain gan bartneriaeth gref sy’n cynnwys nifer o sefydliadau fel Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru, Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon, Galeri Cyf, GISDA, Cyngor Tref Caernarfon, Cyngor Celfyddydau Cymru yn ogystal â’r Antur. Mae’r rhaglen bresennol hefyd wedi gweld tair blynedd o fuddsoddiad gwerth £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru trwy’r Gronfa Trechu Tlodi, Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.

Dywedodd Ken Skates, Dirprwy Weinidog, Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae gan Gaernarfon hanes cyfoethog a rhyfeddol ac, o ganlyniad, mae twristiaeth treftadaeth yn gwneud cyfraniad sylweddol i economi’r dref. Mae’r Rhaglen Adfywio Glannau Caernarfon yn enghraifft o Lywodraeth Cymru a phartneriaid lleol a chenedlaethol allweddol yn cydweithio i gyflawni amcanion cyffredin o ran gwella’r dreftadaeth a’r cynnig twristiaeth, er mwyn gwneud y gorau o’r cyfleoedd … i gryfhau ein heconomi.”

Trwy’r fath ariannu, mae’r rhaglen yn ceisio diogelu treftadaeth yr ardal a dychwelyd ei adeiladau at ddefnydd cynhyrchiol a chynaliadwy, trwy gynnig prentisiaethau i bobl leol, darparu hyfforddiant, dysgu a gweithgareddau gwirfoddoli, gan arwain at swyddi newydd a chynaliadwy.

Cei Llechi

Yn ôl