Yn ôl

Meddyliwch amy ‘Golden Gate’ ac mae’n debyg mae delwedd o San Franciso heulog sy’n dod i’ch meddwl … ond mae Antur Waunfawr yn dathlu symudiad ei siop beics i ‘Golden Gate’ Caernarfon, sef Porth yr Aur.

Mae Antur Waunfawr yn fenter gymdeithasol sy’n darparu cyfleoedd gwaith i oedolion ag anableddau dysgu, ac yn gynt roedd Beics Antur wedi’i leoli ar y Cei Lechi yng Nghaernarfon.

Prynwyd Iard Porth yr Aur ym mis Tachwedd 2017, gynt yn eiddo i gwmni cludiant lleol, Pritchard Bros. Mae’r adeilad llawn hanes, ac mae waliau’r dref yn ffurfio rhan o’r adeilad ei hun. Mynedfa fwaog ‘Porth yr Aur’ gyferbyn a’r safle oedd y brif fynedfa atfor i’r fwrdeistref ganoloesol.

Yn ogystal â llogi, gwerthu a gwasanaethu beics, bydd y safle newydd yn darparu mwy o gyfleoedd iechyd a lles i unigolion gyda anableddau, yn ogystal â bod yn ganolfan llesiant i’r gymuned leol.

Ar ôl sawl mis o baratoadau, cynhaliwyd y mudo mawr o feics ac offer ym mis Ebrill, gyda gorymdaith arbennig o amgylch y dref ar fflyd o feics wedi’u haddasu’r Antur.

Dywedodd Huw Davies, dirprwy prif weithwredwr Antur Waunfawr: “Mae hi’n amser  cyffroes iawn i Feics Antur. Mae hwn yn gyfle i ni chwarae rhan yn natblygiad twristiaeth y gogledd, ac i hyrwyddo iechyd a lles yn y gymuned.

“Roeddem eisiau dathlu’r symudiad i’n safle newydd, ac roedd yr orymdaith o amgylch Caernarfon yn llwyddiant mawr! Mi gafodd criw o’r unigolion y cyfle i reidio o amgylch y dref a chyfarch pobl leol, twristiaid a busnesau, ac i ledaenu’r gair am ein menter newydd.”

Mae Beics Antur wedi’i leoli ym Mhorth yr Aur, Caernarfon, LL55 1RN.

Yn ôl