Yn ôl

SAM_5512Roedd yr Antur yn dathlu unwaith eto wythnos diwethaf ar ôl ennill gwobr arall, tro yma yn seremoni Hybu Annibyniaeth Cymorth Cymru, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.

Ar ôl cael ei henwi’n Fenter Gymdeithasol y Flwyddyn yng ngwobrau Cynnal Cymru yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd, roedd Antur wrth ei bodd yn derbyn anrhydedd arall, y tro hwn gan gydnabod ei rhagoriaeth mewn Byw â Chymorth a Gofal.

Cymorth Cymru yw’r corff ymbarél ar gyfer darparwyr digartrefedd a chefnogaeth gysylltiedig â thai, a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r gwobrau Hyrwyddo Annibyniaeth yn ddigwyddiad a drefnwyd ar y cyd gan Cymorth Cymru ac Awdurdodau Lleol Cymru, sy’n cydnabod arloesedd a rhagoriaeth yn y sectorau hyn.

Cyflwynwyr y noson oedd Gethin Evans o’r elusen leol GISDA , a Tony Garthwaite o Brifysgol De Cymru. Siaradwr gwadd arbennig oedd Mark Colbourne MBE, cyn feiciwr-Paralympaidd Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwraig Antur Waunfawr, Menna Jones: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr bwysig yma, ac ein bod yn cael ein cydnabod am y gwaith yr ydym yn ei wneud i gefnogi a galluogi oedolion bregus i fyw’n annibynnol. Mae ein staff yn gweithio’n ddygn i sicrhau fod pob unigolyn sy’n derbyn gwasanaeth gan Antur yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau, ac i symud ymlaen, ac rydym yn falch iawn o lefel y gofal a’r gefnogaeth rydym yn ei gynnig. ”

SAM_5505SAM_5510

Yn ôl