Wedi’i sefydlu yn 2004, mae’r Warws Werdd yn rhan o deulu o fusnesau Antur Waunfawr.  Mae’r Warws yn gwerthu dodrefn adillad ail-law yn ogystal ag eitemau eraill, gyda gwasanaeth danfon lleol o amgylch Caernarfon, Bangor, Ynys Môn a Pen-Llyn.

Mae hefyd ystafell gyfarfod yma ar gyfer ei llogi, gyda lle parcio cyfleus, lluniaeth a thechnoleg.

Mae’r Warws yn adeilad newydd pwrpasol ac ym Mai 2011 gosodwyd system PV 17KW ar gyfer creu trydan gan ei wneud yn fwy cynaladwy.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa@anturwaunfawr.cymru neu ffoniwch (01286) 674 155.

Hoffwch Warws Werdd ar Facebook

Warws Werdd, Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2BD.