Yn ôl

SAM_6654

Rhoddwyd cyfle i rai o staff yr Antur gloywi iaith yn ddiweddar, ar gwrs Cymraeg chwe wythnos a gynhaliwyd yn y Warws Werdd.

Sefydlwyd Canolfan Bedwyr – sef canolfan Prifysgol Bangor dros Wasanaethau ar gyfer y Gymraeg – ym 1996, ac mae wedi esblygu dros ugain mlynedd i ddod yn ganolbwynt i ddyheadau’r Brifysgol o ran y Gymraeg. Mae’n ganolfan ar gyfer gwasanaethau iaith, ond mae hefyd yn ganolbwynt ar gyfer ymchwil a thechnoleg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ei gwaith yn datblygu meddalwedd, terminoleg a chyrsiau ac adnoddau wedi’u teilwra yn uchel iawn ei barch ymhlith sefydliadau eraill sy’n awyddus i ddatblygu eu defnydd eu hunain o’r Gymraeg.

Mae gwaith y ganolfan o ran hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg wedi cael ei chydnabod gan wobr gan y Sefydliad Materion Cymreig (IWA), ond, yn bwysicaf oll, mae’r gwasanaethau a’r cymorth mae’n cynnig i unigolion a busnesau yng Nghymru yn rhagorol.

SAM_6656

Yn ôl