Yn ôl

Pum diwrnod. Tunnell o Ddillad.
Be wnei di greu?
#CaruEichDilladBangor

 

Clothes

Bydd Caru Eich Dillad a Phrifysgol Bangor yn cynnal digwyddiad unigryw yng ngogledd Cymru rhwng 11 ac 16 Mawrth 2016.

Mae’r Antur yn cymryd rhan, a dyma sut y gallwch cymryd ran hefyd:

• Cyfrannwch ddillad nad ydych mo’u heisiau mwyach er mwyn ein helpu i gasglu tunnell o ddillad ar gyfer Age Cymru, British Heart Foundation (BHF) Cymru ac Antur Waunfawr.
• Cyfnewidiwch eich rhodd am docynnau i siopa am drysorau ail-law yn y digwyddiad cyfnewid dillad.
• Dysgwch sgiliau newydd a rhyddhau eich ochr greadigol yn un o’n gweithdai gwnïo ac uwchgylchu rhad ac am ddim.
• Dewch â dilledyn y mae angen rhoi ychydig o sylw iddo i’n caffi trwsio ar y stryd fawr.
• Dewch i sgyrsiau, dosbarthiadau meistr ac arddangosiadau i ddysgu sut i wneud y mwyaf o’ch dillad
• Cymerwch ran mewn helfa drysor Pasg a chrefftau creadigol i’r teulu.

CYFRANNU RHODD

Wedi syrthio allan o gariad? Mae’n digwydd, ond bydd rhywun arall yn caru’r hyn nad ydych chi’n ei hoffi mwyach. Llenwch fag casglu gyda dillad o ansawdd da nad ydych mo’u heisiau mwyach a’i adael yn y siop Carwch eich Dillad dros dro yng Nghanolfan Siopa Deiniol: 7-10 Mawrth (12pm-2pm) a 11-12 Mawrth (10am-4pm).

Dydd Gwener 11 Mawrth
CAFFI TRWSIO
10am – 4pm

Botwm ar goll? Twll neu rwyg? Hem wedi dod yn rhydd? Galwch heibio siop Age Cymru lle y bydd arbenigwr wrth law i wneud gwaith trwsio bach a rhoi bywyd newydd i’ch eitem!

SGYRSIAU A DOSBARTHIADAU MEISTR
10am – 5pm

Bydd sgyrsiau, arddangosiadau a dosbarthiadau meistr yn cael eu cynnal drwy gydol y dydd ar amrywiaeth o bynciau i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch dillad. Bydd y pynciau’n cynnwys; sut i greu gwisgoedd capsiwl, sut i drwsio’ch dillad yn gyflym, sut i gyweirio, sut i gadw gwyfynod draw a sut i gael staeniau allan o’ch hoff ddillad.
Rhaglen lawn i ddilyn. Does dim angen neilltuo lle, dim ond galw heibio!

Dydd Sadwrn 12 Mawrth
HELFA DRYSOR A CHREFFTAU CREADIGOL
10am – 5pm

Diwrnod llawn hwyl o helfeydd trysor y Pasg a chrefftau creadigol sy’n addas i’r teulu cyfan.

Dewch i’r siop dros dro i gael cyfle i glymu a llifo crysau T wedi’u huwchgylchu, gwneud pypedau sanau a chwningod Pasg, a chreu menig ffwrn a bagiau rhacs…oll o ddillad wedi’u hailgylchu. A chymerwch ran mewn helfa drysor y Pasg i ddysgu am elusennau lleol a sut mae rhoddion dillad yn helpu eu gwaith. Codwch eich map helfa drysor o’r siop dros dro.

Dydd Llun 14 Mawrth
GWEITHDAI GWNÏO
10am – 12pm: Sgiliau gwnïo i ddechreuwyr

Dysgwch sut i ddefnyddio peiriant gwnïo, gwneud gwaith trwsio ac altro er mwyn gallu defnyddio’ch dillad am gyfnod hwy, a dysgu sut i wneud gorchudd clustog neu fag pegiau o ddillad wedi’u hailgylchu.

1pm – 3pm: Cyfrinachau gwnïo

Datblygwch eich sgiliau gwnïo â pheiriant ac â llaw trwy gael cyngor a dysgu technegau newydd i wneud gwaith trwsio cyflym.

Dydd Mawrth 15 Mawrth
DIGWYDDIAD CYFNEWID DILLAD
10am – 5pm

Dewch â’ch tocynnau gyda chi i siopa am drysorau ail-law.

GWEITHDAI GWNÏO
Up-ccessorise!
10am – 11.30am a 12.30pm – 2pm

Cyfle i neud addurniadau gwallt anhygoel, clipiau, bandiau-gwallt, bathodynnau, tlysau, bobbles a llawer mwy wrth ddefnyddio eich hen ddillad a cyfwisgoedd.

Dydd Mercher 16 Mawrth
GWEITHDAI UWCHGYLCHU AC AILFODELU DILLAD
1pm – 5pm

Dysgwch sut y gall hen ddillad neu ddillad nad ydynt yn ffitio’n dda gael eu hailweithio a’u hailffurfio’n eitemau dillad newydd trawiadol! A dysgwch sut i ailwampio ac ailfywiogi’r hyn sydd yn eich wardrob gyda chymorth ac ysbrydoliaeth gan ein harbenigwyr dylunio.

I gael gwybodaeth fanwl am gasgliadau dillad, gweithgareddau a digwyddiadau neu i gadw lle yn un o’r gweithdai, ewch i http://loveyourclothes.org.uk/pum-diwrnod-tunnell-o-ddillad/

*Cynhelir yr holl ddigwyddiadau yn y siop Carwch eich Dillad dros dro yng Nghanolfan Siopa Deiniol heblaw am y Caffi Trwsio yn siop Age Cymru ar y Stryd Fawr. Darparwyd y siop dros dro yn garedig gan Bartneriaeth Canol Tref Bangor.

Yn ôl