Yn ôl

Mae cydweithrediad diweddar rhwng Antur Waunfawr a Chanolfan Newid Ymddygiad Cymru, a leolir ym Mhrifysgol Bangor, wedi arwain at lansio Adroddiad Effaith hawdd ei ddarllen.

Sefydlwyd yr Antur dros 30 mlynedd yn ôl i gynnig cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i unigolion sydd ag anawsterau dysgu, a hefyd i roi cymorth i unigolion yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r adroddiad newydd yn dangos yr effaith mae’r Antur yn cael ar lesiant pobl, trwy wella’r agweddau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd o’u bywydau.SAMSUNG CSC

I greu’r adroddiad, gweithiodd yr Antur yn agos gydag ymchwilwyr ymddygiad Elizabeth Woodcock a Hong Chun Tan, a chafodd lansiad swyddogol yr adroddiad ei arwain gan yr Athro Jerry Hunter o Brifysgol Bangor. Yn ystod y cyflwyniad, cafodd rhai o’r unigolion sy’n derbyn gwasanaeth gan yr Antur y cyfle i siarad am eu gwaith a’u bywydau cymdeithasol, ac i ddangos rhannau o’r adroddiad mewn fersiwn sgrîn-gyffwrdd.

Mae David John wedi gweithio efo’r Antur ers y dechrau un, a dywedodd: “Wnes i fwynhau cyflwyno darn fi o’r Adroddiad, a siarad am fy ngwaith yn y Warws Werdd. Mae’r fersiwn sgrîn-gyffwrdd yn grêt.”

Dywedodd Brif WeithSAMSUNG CSCredwraig yr Antur, Menna Jones: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Brifysgol am gyd-weithio gyda ni, ac rydym yn falch iawn o bob un o’n gweithwyr wnaeth cymryd rhan yn y cyflwyniad. Nhw wnaeth sicrhau fod y digwyddiad yn llwyddiant mawr.”

Yn ôl