Yn ôl

Roedd menter gymdeithasol Antur Waunfawr yn falch o groesawu’r Dirprwy Weinidog Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters AC, a dangos iddo’r gwaith pwysig a wnaed i gefnogi oedolion ag anableddau dysgu.

Mae Antur Waunfawr, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 35 oed eleni, yn fenter gymdeithasol flaenllaw yng ngogledd Cymru, sy’n darparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i unigolion ag anableddau dysgu yn eu cymuned. Ar hyn o bryd mae’n cyflogi dros 100 o staff ac yn cefnogi 67 o unigolion ag anableddau dysgu.

Ymwelodd Mr Waters â thair o brosiectau Antur Waunfawr; Warws Werdd, prosiect ailddefnyddio dodrefn a dillad; Canolfan ailgylchu Caergylchu mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd sydd hefyd yn darparu gwasanaeth llarpio cyfrinachol; a Beics Antur, busnes llogi beics yng Nghaernarfon.

Dywedodd Menna Jones, prif weithredwraig Antur Waunfawr: “Roedd yn bleser croesawu’r Dirprwy Weinidog a dangos iddo’r amrywiaeth o brosiectau cyffrous sy’n digwydd yn Antur Waunfawr. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu mewn ffordd gynaliadwy, sy’n golygu bod gwarchod yr amgylchedd naturiol a datblygu busnesau gwyrdd yn ganolog i werthoedd ein sefydliad.

“Roedd yn braf gallu rhannu ein gweledigaeth, yn enwedig ein cynlluniau ar gyfer ein prosiect Beics Antur ym Mhorth yr Aur yng Nghaernarfon, a fydd yn darparu cyfleoedd beicio cynhwysol a chanolfan llesiant ar gyfer y gymuned leol, ac yn cwrdd ag amcanion y Ddeddf Teithio Lesol Cymru. ”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters AC: “Roedd yn bleser ymweld â thri o safleoedd Antur Waunfawr heddiw i weld y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud yn creu profiadau gwaith i bobl ag anableddau yn y gymuned ehangach.

“Mae eu gwaith yn rhoi ystyr i’r term entrepreneuriaeth gymdeithasol. Maent wedi gweld nifer o gyfleoedd i greu mentrau sy’n diwallu angen cymunedol ac yn darparu gwaith ystyrlon i bobl sy’n wynebu anfantais.

“Hefyd, dangosodd yr ymweliad bwysigrwydd a photensial menter gymdeithasol i fod yn gyflogwr pwysig mewn cymunedau ledled Cymru.

“Mae cefnogi busnesau cymdeithasol Cymru i ddatblygu a thyfu yn un o nodau allweddol Llywodraeth Cymru, drwy Symud Cymru Ymlaen a’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Mae’r sector yn cyfrannu dros £3bn i’n heconomi ac yn cyflogi o gwmpas 55,000 o bobl. Mae mentrau cymdeithasol yn ychwanegu gwerth gwirioneddol at economi a marchnad lafur Cymru drwy greu swyddi, gwella cyrhaeddiad addysgol, darparu gofal cymdeithasol mewn tai pobl a lleihau anghydraddoldeb, yn enwedig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.”

Yn ôl