Gyda lleoliad cyfleus ar Stad Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon, mae’r ystafell fodern ac eang yma yn ddelfrydol ar gyfer hyfforddiant a chyfarfodydd:

• Seddi ar gyfer 25 o gyfranogwyr mewn lleoliad ffurfiol.
• Parcio cyfleus am ddim.
• Mae gennym sgrin gyffwrdd newydd, y gellir ei defnyddio fel bwrdd gwyn rhyngweithiol, gyda chysylltiad HDMI i gysylltu eich cyfrifiadur eich hun. Mae Wi-Fi am ddim ar gael hefyd.
• Te a choffi ar gais.
• Bwffe ar gael hefyd, ar gais.

Grwpiau Cymunedol/Elusennau:

  • Yr awr: £20
  • Hanner diwrnod: £65
  • Diwrnod llawn: £110
  • Te a Choffi: £1.50 y person

Cwmniau/cyrff masnachol:

  • Yr awr: £25
  • Hanner diwrnod: £80
  • Diwrnod llawn: £130
  • Te a Choffi: £1.50 y person

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch warwswerdd@anturwaunfawr.cymru neu ffoniwch 01286 674 155.

Gofynnwn yn garedig am o leiaf 24 awr o rybudd os bydd angen i chi ganslo eich trefniant i logi ystafell. Codir tâl llawn am unrhyw gansladau a wneir o fewn 24 awr i’r
amser archebu a drefnwyd.

 

Warws Werdd, Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2BD.