Warws Werdd - Banc dillad - Gemma a Neil

Mae prosiect dillad y Warws Werdd yn cynnwys casgliadau o fanciau sefydlog sy’n ein galluogi i ailddefnyddio adnoddau yn lleol. Mae’r gwasanaeth yma yn cyd-fynd â chenhadaeth werdd yr Antur, ac yn creu swyddi a hyfforddiant sy’n gwasanaethu ein cymunedau lleol.

Rydym yn casglu dillad a thecstilau yn ddyddiol o gymunedau ar draws gogledd Gwynedd, ac yn anelu atailddefnyddio cymaint o hyn ag y bo modd drwy ei werthu’n lleol

Warws Werdd - partneriaeth ysgolion

Cydweithiwn efo Cynghorau Cymuned, Colegau, Meithrinfeydd ac Ysgolion – ar hyn o bryd, mae’r Antur yn cydweithio gyda 66 o ysgolion cynradd ac mae gennym 14 bin casglu tecstilau ar 9 safle ailgylchu Cyngor Gwynedd drwy gydol Gogledd Gwynedd.

Warws Werdd - Dillad Oedolion

Wrth i’r Warws werthu’r dillad yn eu siop – Dillad Del – mae’r dillad yn cael eu hailddefnyddio’n lleol ac mae’r arian yn cael ei ailfuddsoddi’n lleol hefyd!

Felly, os oes gennych dillad neu thecstilau di-angen, dewch â nhw draw!

Warws Werdd, Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2BD.