Yn ôl

Mae siop feiciau’r Antur, Beics Menai wedi cael mis prysur iawn yn y cyfnod yn arwain at dymor yr haf.

Teithiodd aelodau staff, Gemma a Gary i Lundain yn ddiweddar, i gwrdd â chwmni beiciau arbenigol London Recumbents, cwmni sy’n gwerthu ac yn llogi beiciau i deuluoedd, ond sydd hefyd yn delio mewn beiciau wedi’i haddasu ar gyfer unigolion sydd ag anableddau corfforol. Roedd yn daith ddefnyddiol iawn!

IMAG0104Hefyd yn ystod y mis, fe wnaeth Gemma a Gary cefnogi Prosiect Enduro yn eu hymgais i osod Record Byd newydd ar gyfer y nifer fwyaf o fetrau fertigol disgynnir mewn 24 awr, ar feiciau mynydd pedair olwyn.

Briff cychwynnol Prosiect Enduro oedd dylunio a gweithgynhyrchu dau feic mynydd lawr allt pedair olwyn prototeip i’w defnyddio gan bobl ag anableddau corfforol, ac maent wedi cyflawni hyn yn hawdd. Maent hefyd wedi llwyddo bellach i chwalu’r Record Byd, gyda Beics Menai gyda nhw bob cam o’r ffordd!IMAG0177

Ac, os nad yw hynny’n ddigon, wnaeth Beics Menai staffio stondin ar y Maes yng Nghaernarfon penwythnos diwethaf, ar gyfer y digwyddiad poblogaidd Etape Eryri!

IMAG0251

Yn ôl