Well-being Statement, Antur Waunfawr

Hyrwyddo llesiant, iechyd da ac hapusrwydd, a galluogi unigolion fydd conglfeini gwasanaethau  Antur Waunfawr i’r dyfodol, er mwyn cyfarch Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a Deddf Teithio Llesol Cymru 2013.

Darperir gofal, cefnogaeth weithgar, hyfforddiant a gwaith ystyrlon mewn modd effeithlon a chymesur i ateb gofynion unigolion ag anableddau dysgu a phobl ddifreintiedig yn lleol.

Fel menter gymdeithasol bydd Antur Waunfawr yn cyfarch anghenion cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol y gymuned leol– a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu ddewis iaith yr unigolyn, ac mewn partneriaeth.

Y nod yw creu cymdeithas arloesol, gyfartal, gynhyrchiol a charbon isel trwy feithrin teulu o fusnesau cynaliadwy yn lleol – cychwyn wrth ein traed a gweithredu’n uchelgeisiol i sicrhau llesiant  a  chymunedau gwydn.

 

Nod ac Amcanion, Antur Waunfawr

• Darparu gwaith a gweithgaredd ystyrlon a deniadol a chyfleoedd hyfforddiant blaengar mewn amgylchedd gefnogol i unigolion ag anableddau a’r difreintiedig.
• Darparu cartrefi o ansawdd uchel gyda chefnogaeth a pharch i rymuso’r unigolion i fyw bywydau llawn ac annibynnol felten antiaid.
• Darparu cynlluniau cynaliadwy a gwasanaethau ail-ddefnyddio ac ail-gylchu proffesiynol yng ngogledd Cymru mewn cydweithrediad â chyrff statudol a phreifat.
• Datblygu modelau o gynllunio person canolog a hyrwyddo Cefnogaeth Weithgar fel rhan o gynlluniau yr unigolion, a rhaeadru’r broses trwy weithgaredd/gwaith yr Antur.
• Hyrwyddo integreiddio a byw’n iach ym mhob agwedd o’r gwasanaethau a darpariaeth hamdden i gyfarch iechyd da, llesiant ac hapusrwydd sy’n ateb gwir ofynion yr unigolion.
• Darparu cyfleusterau hygyrch i ymwelwyr, cwsmeriaid a’r gymuned leol, a meithrin diddordeb a ffynonellau incwm cynaliadwy o’r gweithgareddau a’r safleoedd.
• Datblygu gweithgareddau cynaliadwy sy’n gydnaws ag anghenion ardal Waunfawr a Chaernarfon a chefnogi’r gymuned ehangach a gwarchod yr amgylchedd.
• Creu canolbwynt newydd llesiant a hwb i’n busnes beicio ym Mhorth yr Aur, Caernarfon.
• Bod yn gyflogwr rhagorol a blaengar, a hybu’r iaith, diwylliant, a’r economi leol.