Yn ôl

Mae menter gymdeithasol leol Antur Waunfawr yn dathlu ar ôl ennill Gwobr Host Lleoli Gogledd a Chanolbarth Cymru yn seremoni wobrwyo CWP Jobcentre yn Ewlo, ym mis Hydref.

Noddwyd y wobr gan Working Links, sefydliad sy’n ymroddedig i gael y di-waith hirdymor yn ôl i waith. Mae gan Antur gysylltiadau agos â Working Links, ar ôl darparu lleoliadau ar gyfer 12 ymgeisydd drwy’r cynllun, a arweiniodd at gyflogaeth ar gyfer dau o’r unigolion yma, a lleoliadau gwirfoddoli pellach.

Wedi ei gynnal yn Village Hotel Club St David’s Park yn Ewlo, roedd y seremoni yn gyfle i wobrwyo a thynnu sylw at lwyddiannau unigolion a busnesau sydd wedi cymryd rhan mewn cynlluniau lleoliadau gwaith cymunedol yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwraig Antur Waunfawr, Menna Jones: “Roedd yn amlwg o’r prynhawn gwobrwyo faint o waith da sydd yn cael ei wneud gan gyflogwyr yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru i helpu unigolion sydd heb waith i fagu hyder a sgiliau i mewn i waith. Mae’r Antur yn credu yn gryf yn y cynlluniau yma ac yn cydnabod bod y bartneriaeth efo Working Links a’r Ganolfan Waith yn gwneud gwahaniaeth mawr i lwyddiant a chanlyniadau’r lleoliadau gwaith.”

Gwobr Working Links Award

O’r chwith: Ellen Thirsk, David Lee Jones, Letiesha Taylor, Glesni Jones a Aled Parry o Antur Waunfawr, gyda’r wobr Host Lleoli Gogledd a Chanolbarth Cymru.

Gwobr Working Links Award 2

Y wobr Host Lleoli Gogledd a Chanolbarth Cymru wedi’i ennill gan Antur Waunfawr.

Yn ôl