Yn ôl

Mae’n flwyddyn bwysig i Antur Waunfawr, wrth iddynt ddathlu ei ben-blwydd yn 35 oed!

Wedi’i sefydlu ym 1984 gan R. Gwynn Davies, mae Antur Waunfawr yn darparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i oedolion ag anableddau dysgu yn eu cymuned. Mae’r fenter gymdeithasol wedi tyfu’n sylweddol dros y 35 mlynedd diwethaf, ac mae bellach yn rheoli 15 o fusnesau ar draws pedwar safle, wrth gefnogi 67 o unigolion ag anableddau dysgu ac yn cyflogi dros 100 o staff.

Dathlodd yr Antur mewn steil, gyda Ffair Haf ar eu safle Waunfawr, ac yna gig nos yn Galeri Caernarfon, yng nghwmni Gruff Rhys.

Roedd ffair yr haf yn lwyddiant mawr, gyda cherddoriaeth fyw gan Phil Gas a’r Band a SERA, perfformiadau gan Ddoniau Cudd, adloniant i blant gyda Sgiliau Syrcas Cimera a Swigod Dr Zigs, a stondinau bwyd, diod a chrefft.

Dywedodd Menna Jones, Prif Weithredwraig Antur Waunfawr: “Fe gawsom ni ddiwrnod gwych yn ein gŵyl haf eleni. Mae’r gymuned leol wrth wraidd popeth a wnawn, ac roedd y cyfle i ddathlu 35 mlynedd gyda’n ffrindiau a’n cefnogwyr yn golygu llawer iawn i ni.

“Mae iechyd a llesiant yn ganolog i holl wasanaethau Antur, ac roedd ein ffair haf eleni wedi’i sefydlu ar y thema yma, gyda gweithgareddau newydd megis beicio a cherddoriaeth ar gyfer y teulu cyfan. Roedd yr haul hyd yn oed wedi gwneud ymddangosiad arbennig i ni!”

Parhaodd y dathliadau fewn i’r nos, gyda gig arbennig ‘Antur 35: Gruff Rhys’ yn Galeri, Caernarfon. Cychwynnodd y noson gyda Dyl Mei yn darparu adloniant yn y bar, cyn perfformiad gwych gan unigolion Antur Waunfawr dan arweiniad y cerddor Annette Bryn Parri. Mae Annette wedi bod yn cynnal sesiynau cerddoriaeth reolaidd yn Antur, a chafodd yr unigolion dderbyniad anhygoel ac emosiynol gan y dorf.

Yna, wnaeth Gruff Rhys gymryd i’r llwyfan i arwain noson anhygoel o gerddoriaeth Gymraeg acwstig. Yn adnabyddus am ei waith unigol ac am ei lwyddiant gyda’r Super Furry Animals, mae Gruff wedi bod yn gefnogwr o waith Antur Waunfawr ers blynyddoedd. Ymwelodd Gruff ag Antur Waunfawr ddiwethaf yn 2012 fel rhan o’i ymchwil i brosiect ‘American Interior’, wrth iddo ddilyn ôl troed yr archwiliwr a’i hynafiad  o’r 18fed ganrif , sef John Evans, o Waunfawr.

Mewn tro annisgwyl, gwnaeth y pyped ac allor John Evans – a aeth Gruff gydag ef ar ei daith o amgylch America – ymddangosiad arbennig fel rhan o’i set ar lwyfan y Galeri. Mae Gruff nawr wedi anthegu’r pyped ac allor i Antur Waunfawr ac felly, mewn teyrnged addas, mae John Evans wedi dychwelyd adref i bentref Waunfawr!

Dywedodd Haydn Jones, rheolwr ailgylchu Antur Waunfawr: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Gruff Rhys am ymuno efo ni i ddathlu’r pen-blwydd a’r garreg filltir hon, roedd unigolion Antur Waunfawr wedi gwir mwynhau’r profiad o’i gefnogi ar y llwyfan.

“Mae’r dathliadau hyn wedi atgyfnerthu’n gwerthoedd o fewn y gymuned, ac rydym yn ddiolchgar i’n holl gefnogwyr dros y trideg pum mlynedd diwethaf, nawr ymlaen i’r trideg pump nesaf!”

Yn ôl