Caergylchu - Dafydd a'r plastigCanolfan ailgylchu defnyddiau a sefydlwyd ar y cyd gyda Cyngor Gwynedd yn 2005 yw Caergylchu. Mae’r bartneriaeth yma wedi ein galluogi i greu cyfleon gwaith ac hyfforddiant i oedolion ac anableddau dysgu yn y maes ailgylchu.

Mae Caergylchu yn trin 15,000 tunnell o ddeunyddiau bob blwyddyn – papur, plastigion, caniau, cardfwrdd a chanolfan mwynderau trefol ar gyfer y cyhoedd.

Dyma’r ganolfan ar gyfer holl ddefnyddiau Antur Waunfawr – llarpio, gwastraff swyddfa a chetris.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â llarpio@anturwaunfawr.cymru neu ffoniwch (01286) 669 330