Mae Beics Antur yn siop hurio beics wedi’i leoli yng Nghaernarfon, Gwynedd, Gogledd Cymru.

Mae safle Beics Antur ym Mhorth yr Aur nawr wedi cael ei ddatblygu yn ganolfan Iechyd a Llesiant, gyda gwasanaeth llogi a thrwsio beics, Llofft Llesiant i’w logi i gynnal gweithgareddau iechyd a llesiant, ac ystafell synhwyraidd mewn prosiect werth £1 miliwn.

Mae gennym ddewis helaeth o feiciau merched, dynion a phlant ar werth ac i’w llogi. Mae gennym hefyd fflyd o feics addasol sy’n addas i bob gallu.

Mewn lleoliad cyfleus yn agos i Gastell Caernarfon, gyda mynediad hawdd i’r llwybr beicio Lôn Las Eifion ac aber Y Foryd, rydym yn cynnig gwasanaeth gwych am brisiau gwych.

Mae Beics Antur yn rhan o deulu Antur Waunfawr. Rydym yn darparu ar gyfer teuluoedd a grwpiau, ac yn falch o gynnig gwasanaeth personol.

Rheilffordd Eryri

Rheilffordd Ffestiniog 2Taith ar drên wedi’i ddilyn gan daith feicio … am ddiwrnod allan bendigedig! Mae Rheilffordd Eryri yn rhedeg o’r Cei yng Nghaernarfon drwy gefn gwlad hardd gogledd Cymru, heibio pentrefi Waunfawr a  Beddgelert i  Borthmadog. Mae’n bosib mynd â’r beics o Beics Antur ar y trên (heb unrhyw dâl ychwanegol) a beicio yn ôl i Gaernarfon ar Lôn Eifion, y llwybr beicio di-draffig, ond mae’r rheilffordd yn gofyn i chi ffonio o flaen llaw i sicrhau lle. Am ragor o wybodaeth: www.festrail.co.uk/cym_index.htm

Llwybrau Beicio o Gaernarfon

Beics Menai - Lôn EifionLôn Eifion: llwybr adnabyddus sy’n ymestyn am 12 milltir o Gaernarfon am Borthmadog.

Lôn Las Menai: llwybr 4 milltir ar hyd Y Fenai rhwng Caernarfon a’r Felinheli (am Fangor).

Y Foryd: lôn wledig dawel sy’n cynnig taith ysgafn gyda golygfeydd trawiadol ar draws Y Fenai drosodd i Ynys Môn (nid yw’n lôn ddi-draffig)

Lôn Gwyrfai: llwybr o Gaernarfon trwy gefn gwlad at bentref Waunfawr – ar lwybr ac ar hyd y ffordd.

 

Am gwasanaethau llogi, gwerthu a thrwsio beics

 Beics Antur, Porth-yr-Aur, Stryd Fawr, Caernarfon, LL55 1RN
beics@anturwaunfawr.cymru
01286 672622

 

ORIAU AGOR AR HYN O BRYD:
 Dydd Llun – Gwener: 9.00 y.b – 4.30 y.h
Wedi cau: Dydd Sadwrn a Dydd Sul dros y Gaeaf

 

Cefnogwyd y prosiect hwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru; y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol; Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru; Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru; a dyfarniad gan sefydliad Garfield Weston.