Yn ôl

Mae Antur Waunfawr yn dathlu ar ôl ennill gwobr menter gymdeithasol Iechyd a Gofal Cymdeithasol y flwyddyn yn seremoni gwobrwyo Busnes Cymdeithasol Cymru yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd.

Darperir Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, gyda’r nod o dynnu sylw at fusnesau cymdeithasol yng Nghymru sy’n creu effaith economaidd a chymdeithasol sylweddol. Cyflwynwyd y noson gan y seren deledu a’r tenor Cymraeg, Wynne Evans, ac roedd y siaradwyr arbennig yn cynnwys Ken Skates AC/AM, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

Noddwyd y wobr Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan BIC Innovation, ac enillodd Antur Waunfawr y wobr am ei waith yn darparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i oedolion ag anableddau dysgu. Derbyniwyd grant ICF (Cronfa Gofal Integredig) i ddatblygu rhaglen llesiant newydd, sy’n cynnwys beicio, dosbarthiadau ffitrwydd, marchogaeth a mwy, sy’n canolbwyntio ar wella iechyd a llesiant.

Dywedodd Stephen Goodwin, uwch reolwr gwasanaethau Antur Waunfawr: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr bwysig yma, ac ein bod yn cael ein cydnabod am y gwaith yr ydym yn ei ddarparu ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu.

“Mae’r rhaglen weithgareddau rheolaidd wedi gwneud gwahaniaeth positif i iechyd a llesiant yr unigolion, ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu’r cyfleoedd hyn gyda’n prosiect Beics Antur ym Mhorth yr Aur, Caernarfon.”

Yn ôl