Yn ôl

Gwenlli a MennaMae Antur Waunfawr yn dathlu llwyddiant unwaith eto, ar ôl ennill gwobr Menter Gymdeithasol y Flwyddyn yn seremoni wobrwyo Cynnal Cymru yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf.

Cynhaliwyd y seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm o flaen cynulleidfa o fusnesau cenedlaethol a rhyngwladol, a hyrwyddwyr cynaliadwyedd yng Nghymru, gan roi cyfle i wobrwyo a thynnu sylw at y pethau gwych mae pobl a sefydliadau yn ei wneud er mwyn ddatblygu’n gynaliadwy.

Cynnal Cymru yw’r sefydliad mwyaf blaenllaw ar gyfer datblygu cynaliadwy yng Nghymru, gyda dros 12 mlynedd o brofiad o gefnogi newid ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

Yn ôl