Yn ôl

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Roedd hi’n bleser croesawu Syr Peter Luff, Cadeirydd Gronfa Treftadaeth y Loteri, i Feics Menai wythnos yma, a chlywed am y grant £3.5m i’r ddatblygu’r Cei Llechi yng Nghaernarfon.

Mae hyn yn newyddion gwych i’r dref, ac roedd hi’n ddiddorol iawn clywed am y cynlluniau i adfywio rhan o’r dref a fu unwaith yn llawn prysurdeb diwydiannol, i’w lawn ogoniant.

Mi wnaeth criw o Antur Waunfawr mwynhau arddangos y beiciau addasol, a chafodd ein prif weithredwraig, Menna Jones, cyfle i siarad gyda Syr Luff am amcanion yr Antur ac ein gweledigaeth ar gyfer Beics Menai yn y dyfodol.

Yn ôl