Mae Antur Waunfawr 20140728_104343yn hyrwyddo iechyd a lles, ac yn creu amgylcheddau lle y gall unigolion deimlo’n wybodus, yn grymus, yn iachach ac yn hapusach.

Mae’r Antur yn annog ac yn hyrwyddo bwyta’n iach, gyda’r prosiect Tirmon yn tyfu llysiau ffres ar y safle yn Waunfawr. Mae’r llysiau’n cael eu defnyddio yn y caffi, a hefyd yn rhan o focsys llysiau sydd yn cael eu creu ar gyfer ein gweithwyr i’w defnyddio gartref.

Mae’r Antur hefyd yn annog ymarfer corff yn rheolaidd. Mae clwb cerdded yr Antur yn mynd ar deithiau yn aml, ac mae sesiynau ffitrwydd rheolaidd yn cael eu cynnal yn gyson, gyda cyn-aelod o staff sy’n meddu ar Lefel 3 Tystysgrif mewn Hyfforddiant Personol (QCF).

Ffitrwydd - PeterFfitrwydd