Yn ôl

Yn dilyn ein hapêl am seidr, aeth criw o safle Waunfawr i erddi cymunedol yr ‘Coach House’ yn Sychdyn, er mwyn hel afalau. Diolch yn fawr iawn i Mr Powell-Davies a’r garddwyr am gysylltu efo’r cynnig caredig, ni allem gredu faint o afalau oedd ar y coed! Prynhawn prysur yn casglu’r holl afalau o’r ardd waliog (roedd ‘na filoedd!), ac yn awr yn ôl i’r Antur i baratoi’r olaf o’r seidr fel ei fod yn barod ar gyfer y ffeiriau Nadolig!

Yn ôl