Fel cyflogwr, mae’r Antur yn credu yn gryf mewn datblygu unigolion i’w llawn potensial gan adnabod talent ar gyfer llwyddiant y Cwmni.

Unigolion ag Anableddau Dysgu

  • Darperir cyfleoedd sy’n ateb gofynion ystod eang o bobl:-
  • Unigolion ag anableddau dysgu sydd â sgiliau uchel.
  • Unigolion a gofynion cymhedrol sydd â sgiliau penodol.
  • Gwasanaeth therapiwtig newydd ar gyfer unigolion ag aml-ofynion.
  • Cyfleoedd cymdeithasol, hamdden a gwyliau.

Cyfleoedd Gwaith

  • Trawsdoriad o gyfleoedd gwaith sydd yn cynnwys swyddi yn y maes gofal, ailgylchu, ailddefnyddio, rheoli a gweinyddol.
  • Darparu profiadau gwaith ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd, colegau lleol, myfyrwyr prifysgol ac ysgolion arbennig.
  • Rhedeg cynlluniau Prentisiaethau sydd yn adeiladu capasiti unigolion yn ôl i’r gwaith.
  • Profiadau gwirfoddoli ar gyfer oedolion.