Yn ôl

Wel am noson wych yn ein digwyddiad Nadolig Miri Siôn Corn eleni! Diolch i bawb a fynychodd! Roedd hi’n braf cael cerddoriaeth fyw eleni gan Fand Pres Llanrug a Dylan Wyn Evans, yn ogystal â chrefftau cartref ar werth, cacennau blasus a bwyd yng nghaffi Blas y Waun. Roedd seidr Perllan y Fro’r Antur yn boblogaidd iawn hefyd!

Diolch i ddisgyblion Ysgol Waunfawr am eu canu swynol yn ystod y nos, ac wrth gwrs i Siôn Corn ei hun am ddŵad draw gydag anrhegion i bawb!






  



Yn ôl